Blog | 10 Tac 2021

‘Baby Steps Into Welsh’ gyda Laura McAllister a Llinos Jones

Yn ein cyfres podlediadau Saesneg #BabyStepsIntoWelsh mae’r gyflwynwraig hoffus Nia Parry wedi bod yn sgwrsio gyda theuluoedd am eu profiadau, gofidiau a chwestiynau am Addysg Gymraeg. Gallwch wrando a dilyn y gyfres yma: www.podfollow.com/babystepsintowelsh

Yn y bennod yma, bu Nia yn sgwrsio gyda Llinos Jones, cynhyrchydd radio llawrydd a’i phartner Laura McAllister, cyn chwaraewr pêl droed Cymru ac Athro Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r ddwy yn magu eu plant yn Nhreganna, Caerdydd.

“Mae’n rhesymegol trosglwyddo’r Gymraeg i’n merched. Mae gen i gysylltiad emosiynol â’r iaith- rydw i’n trosglwyddo hyn iddyn nhw, a fydd yn cael ei drosglwyddo i’w plant nhw wedyn!” Llinos.

Er i’r ddwy gael eu magu yng Nghymru, mae Llinos yn adnabod ei hun yn Brydeinig a Laura yn Gymraes. Cafodd Llinos ei magu gan rieni Cymreig ger Llandeilo ond yn siarad Saesneg adref. Roedd Laura wedi ei magu mewn cartref dwyieithog ac wedi gorfod brwydro i gadw’r iaith.

“Roeddwn yn gorfod teithio i fynd i ysgol Gymraeg. Doedd Sir Bro Morgannwg Ganol ar y pryd ddim yn gefnogol iawn o’r iaith felly roeddwn i a fy chwaer yn gorfod byw gyda Mamgu a Thad cu ym Maesteg er mwyn mynychu’r ysgol Gymreig agosaf”. Laura

Yn lwcus iddyn nhw, mae mynediad at addysg Gymraeg lot haws erbyn hyn! Mae ganddynt ddwy o ferched ac roeddent yn gwybod o’r broses mabwysiadu fod y plant am ddilyn y llwybr o addysg Gymraeg. Mae Annie bellach ym mlwyddyn 3 ac Isabella (Bella) yn y Dosbarth meithrin a’r Cylch Meithrin.

“Rydym yn lwcus iawn yn y Cylch. Gan fod Caerdydd yn ddinas Brifysgol, mae cymysg brwd o bobl ddi-gymraeg a Di-Brydeinig yno. Mae’r rhieni Di-Brydeinig yn falch o weld eu plant yn dysgu Cymraeg er mwyn cyfoethogi nhw. Y mwyaf o ieithoedd sydd gan y plentyn, y gorau!” Laura

Clywn sut mae’r Cylch Meithrin ac Ysgol Treganna wedi eu cefnogi nhw, a nifer o deuluoedd eraill drwy gyfathrebu yn ddwyieithog. Mae hyn yn bryder mawr i nifer sydd yn meddwl gyrru eu plant am addysg Gymreig.

“Mae hyn wedi dod yn amlycach yn ystod y cyfnod Cofid – 19, ble roedd angen cyfathrebu yn gyson gyda’r rhieni. Roedd yn ofnadwy o gysurol i ni dderbyn gohebiaeth yn ddwyieithog. Mae angen i’r rhieni sydd yn eistedd ar y ffens ynglŷn âg anfon eu plant i Ysgol Gymraeg yn dilyn Cylch i wybod hyn.” Llinos

Mae Laura yn llawer mwy hyderus yn defnyddio’r iaith na Llinos. Gan weithio yn y byd gwleidyddol, mae wedi gorfod ail ddysgu’r iaith ac wedi dysgu nifer o eiriau newydd! Mae Llinos ar y llaw arall yn osgoi gwneud llawer o waith Cymraeg yn ei swydd fel cynhyrchydd radio, ac mae hyn i gyd yn dod lawr i hyder. Mae’n werthfawr iddynt i glywed Anni a Bella yn sgwrsio mewn Cymraeg.

‘Mae’r merched yn siarad Cymraeg yn anrheg werthfawr iawn i ni’. Llinos a Laura.

Wrth sgwrsio gyda Nia, mae’n amlwg fod Laura a Llinos yn falch iawn o gael y ddarpariaeth Gymraeg yma ar eu stepen drws, a ddim yn cymryd hyn yn ganiataol.

Gallwch wrando ar y sgwrs yn llawn yma a chofiwch rannu gyda theuluoedd eraill sy’n ceisio penderfynu ar y llwybr cywir ar gyfer addysg eu plant ar hyn o bryd: www.podfollow.com/babystepsintowelsh