Yn ein cyfres podlediadau Saesneg #BabyStepsIntoWelsh mae’r gyflwynwraig hoffus Nia Parry wedi bod yn sgwrsio gyda theuluoedd am eu profiadau, gofidiau a chwestiynau am Addysg Gymraeg. Gallwch wrando a dilyn y gyfres yma: www.podfollow.com/babysteps.

Yn y bennod yma, bu Nia yn sgwrsio gyda thad a mab o Gaerdydd, Wayne a Connagh Howard. I’r rhai ohonoch chi sy’n ffans o ‘Love Island’, efallai bod Connagh yn adnabyddus fel cyn-gystadleuydd, ac un  ddefnyddiodd y cyfle i hybu’r Gymraeg a Chymru! Mae Wayne a Connagh hefyd wedi ymddangos mewn cyfres boblogaidd ar S4C, sef ‘Cymru, Dad a Fi’, ac yn ystod y sgwrs gyda Nia, cawn glywed mwy am sut mae siarad Cymraeg wedi agor drysau a chyfleoedd i’r ddau yn y byd teledu a thu hwnt.

Yn ystod cyfnod ffilmio ‘Cymru, Dad a Fi’, cafodd Wayne a Connagh gyfle i grwydo’r gogledd am y tro cyntaf. Cawn glywed sut roedd y profiad o weld a chlywed pobl yn byw a gweithio’n gyfan gwbl trwy’r Gymraeg yn agoriad llygad i’r ddau ac yn wahanol i’w profiad nhw o fyw yn ardal Caerdydd a De Cymru;

“Doeddwn i ddim yn gwybod dim byd am Ogledd Cymru! Roedd yn brofiad emosiynol iawn. Dros yr holl flynyddoedd dwi wedi bod yn dysgu Cymraeg, dydw i heb gael y cyfle i ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd fel ces i yn y Gogledd.” Wayne

Mae Wayne wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 28 mlynedd a dyma’r tro cyntaf iddo grio heb fod yn drist.

“Roeddwn ar gwch yn mynd o dan Bont Menai ac fe ddechreuodd bobl ganu. Dwi erioed wedi profi rhywbeth mor Gymreig o’r blaen ac roedd yn brofiad emosiynol iawn i fi”. Wayne

Cawn glywed sut cafodd Wayne a’i wraig eu perswadio i roi eu plant i mewn addysg Gymreig o’r cychwyn a sut aeth Connagh a’i chwaer i’r Clwb Ti a Fi, y Cylch Meithrin ac ymlaen i barhau’r addysg Gymraeg. Mae Connagh yn agored iawn wrth esbonio sut mae addysg Gymraeg wedi agor nifer o ddrysau iddo ac wedi rhoi sgiliau gwerthfawr iddo fedru manteisio ar gyfleodd gwaith;

“Dwi wedi derbyn rhannau teledu gan fy mod yn siarad Cymraeg, byswn i heb gael y cyfloed yma heb y gallu i siarad yr iaith. Dwi mor falch ac mor ddiolchgar o’r sgil yma. O’n i’n gweld Love Island fel platfform gwych i godi ymwybyddiaeth o’r iaith. Doedd rhai o’r cystadleuwyr ddim yn gwybod am fodolaeth yr iaith felly roedd yn wych gallu rhannu ac addysgu nhw. Mae’n ddigon hawdd i golli’r iaith wrth fyw yng Nghaerdydd a rŵan ym Manceinion, ond dwi’n benderfynol o’i ddefnyddio a’i rannu”.

Fe gychwynnodd perthynas Wayne a’r iaith pan oedd wedi cael cyfweliad gyda phennaeth Ysgol Gynradd Connagh. Roedd wedi addo dysgu Cymraeg. Cawn glywed am ei siwrne i ddysgu’r iaith fel oedolyn a sut mae bellach yn dysgu Cymraeg i eraill.

“Yn 51 mlwydd oed, nes i golli fy swydd. Yn hytrach na gweld hyn fel rhywbeth negyddol, nes i weld o fel cyfle i fynd i’r Brifysgol. Dydw i heb edrych yn ôl! Roedd yn waith caled ond roedd yn werth dyfalbarhau a dwi mor falch fy mod i’n rhugl yn y Gymraeg ac yn medru rhannu’r anrheg yma gyda phobl eraill.” Wayne

Yn ystod y sgwrs cawn ddysgu bod gwraig Wayne, Mam Connagh ddim yn medru’r Gymraeg ond roedd hi mor benderfynol â’r gweddill bod y plant yn cael pob cefnogaeth i ddysgu’r iaith ac yn hapus i’w phlant a’i gwr sgwrsio yn y Gymraeg ar yr aelwyd, heb orfod troi i’r Saesneg er ei mwyn hi;

“Roedd yn hollol normal inni sgwrsio yn y Gymraeg gyda’n gilydd. Er bod Mam ddim yn siarad Cymraeg, mae’r holl flynyddoedd o wrando ar y tri ohonom ni yn sgwrsio, wedi talu ffordd –  ‘ni methu siarad amdani, mae’n deall yn iawn! Mae hi wedi pigo geiriau i fyny trwy wrando arnom ni ac mae hynny’n grêt”. Connagh

Felly, beth oedd cyngor Wayne i rieni eraill di Gymraeg?

“Ewch amdani i roi’r cyfle i’ch plant ac ewch i ddysgu’r iaith hefyd! Dysgwch ychydig o’r basics i ddechrau ac mi fydd hynny’n andros o help i chi a’ch plant wrth iddyn nhw ddatblygu. Efallai y byddwch chi’n mwynhau gymaint nes byddwch chi hefyd eisiau parhau, fel fi!”

Gallwch wrando ar y sgwrs yn llawn yma a chofiwch rannu gyda theuluoedd eraill sy’n ceisio penderfynu ar y llwybr cywir ar gyfer addysg eu plant ar hyn o bryd: www.podfollow.com/babysteps.