Fel mudiad sy’n credu ‘lle bynnag y mae plant, dylai Mudiad Meithrin ac felly’r Gymraeg, fod yn bresennol’ ry’n ni’n hynod falch o gyhoeddi partneriaeth newydd rhwng cwmni ‘Cynyrchiadau Twt’, S4C a’r Mudiad, i ddatblygu cyfres ddoniol newydd i gyflwyno’r Gymraeg i blant ifanc trwy ddefnydd comedi.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae aelodau staff sy’n arbenigo ar y dull trochi iaith yn ein cynllun ‘Croesi’r Bont’ wedi mwynhau’r profiad o gael gweithio ar y rhaglen Annibendod gan gynghori ar batrymau iaith sy’n addas i blant sy’n gwylio ‘Cyw’ a phlant hŷn sy’n dysgu Cymraeg. Mae hi’n allweddol bwysig defnyddio pob cyfle a phob cyfrwng i gyflwyno’r Gymraeg i blant gan gofio fod comedi’n gallu denu cynulleidfa newydd. Mae gan S4C a Mudiad Meithrin berthynas hir o gydweithio ac mae cywaith gyda chwmni cynhyrchu annibynnol ‘Cynyrchiadau Twt’ wedi bod yn brofiad newydd eto i ni fel sefydliad.”
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu fis Ionawr 2025.
Dywedodd Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys Plant a Dysgwyr S4C:
“Fe gefais fy nenu at y gyfres Annibendod gan ei fod yn syniad gwreiddiol sydd yn gweithio ar ddwy lefel, gan gyfuno comedi a slapstic gyda phatrymau ieithyddol. Bydd y gyfres yn apelio at wylwyr Cyw 2-5 oed sy’n rhugl yn y Gymraeg fydd yn mwynhau’r comedi, a bydd Annibendod hefyd yn addas ar gyfer y rhai hynny sydd yng nghyfnod allweddol 1 a 2 sy’n dysgu Cymraeg.
Wrth i S4C ymateb i’r darged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n bwysig i ni gael cynnwys plant sy’n apelio at siaradwyr Cymraeg hyderus a rhai sy’n ddysgwyr fel ei gilydd, er mwyn gwneud y Gymraeg yn berthnasol. Mae comedi yn gerbyd ardderchog i wneud hynny am ei fod yn gyfrwng mor weledol ac yn boblogaidd ymysg plant, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weld y penodau gorffenedig.”
Meddai Siwan Jobbins, Rheolwr-gyfarwyddwr Cynyrchiadau Twt:
“Comedi am hynt a helynt Anni, merch ddireidus, llawn hwyl, ychydig yn anarchaidd a hynod o anniben yw Annibendod.
Mae’r comedi’n weledol, gydag iaith syml, fydd yn, galluogi’r gwylwyr i ymgolli yn hwyl anturiaethau Anni, ei ffrindiau a’i bochdew, Bochau wrth ymdrochi yn yr iaith. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Mudiad Meithrin ar gynnwys ieithyddol y gyfres.”