Yn ein cyfres podlediadau Saesneg #BabyStepsIntoWelsh mae’r gyflwynwraig boblogaidd Nia Parry wedi bod yn sgwrsio gyda theuluoedd o bob cwr o Gymru a thu hwnt, am eu profiadau, gofidiau a chwestiynau am Addysg Gymraeg. Gallwch wrando a dilyn y gyfres yma: https://www.podfollow.com/babysteps

Yn yr ail bennod, bu Nia yn chwerthin a sgwrsio gyda’r comediwr Mike Bubbins a’i wraig Kelly, sy’n Ddirprwy Bennaeth mewn ysgol Saesneg yn ardal Caerdydd. Cafodd y ddau eu magi yn ne Cymru, Kelly yn Abertawe a Mike yn y Bari, ond yr un ohonynt yn siarad Cymraeg.

Soniodd Kelly fel roedd hi’n genfigennus o’i ffrindiau coleg gan eu bod nhw’n siarad Cymraeg, a phenderfynnodd bryd hynny ei bod hi am i’w phlant gael addysg Gymraeg.

“O’n i ddim mor siwr am addysg Gymraeg. O’n i’n poeni na fyddwn i’n gallu helpu’r plant gyda’i gwaith ysgol, fel cyn athro roedd hyn yn bwysig i fi”.

Fel sawl rhiant yn ystod y gyfres, cawn glywed sut roedd Mike yn poeni am ei allu i helpu’r plant gyda’i gwaith. Roedd y ffaith ei fod o a Kelly yn ddi Gymraeg yn poeni Mike ac roedd yn cwestiynnau a oedd hyn yn anfantais i’r blant.

“Roedd y Cylch Meithrin yn wych ac yn ffordd gret i arbrofi gydag addysg Gymraeg. Roedd y staff mor dda, mor gefnogol i ni a’r rheini eraill, doedden nhw’n methu gwneud digon i’n helpu ni a’r rhieni eraill oedd yn ddi Gymraeg.” 

Soniodd Mike a Kelly wrth Nia am bwysigrwydd y Cylch Meithrin fel modd iddynt ddatblygu rhwydwaith o rieni eraill allai fod o gymorth iddynt. Clywn hefyd sut roedden nhw’n sylwi’n sydyn bod y plant yn dysgu’r iaith yn gyflym ac yn medru troi o un iaith i’r llall mor rhwydd o ganlyniad i’r Cylch Meithrin.

“Tafwyl, the Urdd, the Eisteddfod…we’d never ever have experienced all these amazing Welsh cultural events and opportunitioes if our kids didn’t attend a Welsh school. The cultural aspect is an eye opener and I’m so glad our family have been exposed to it  as a result of Welsh medium education” 

Esboniodd Kelly wrth Nia sut mae’r elfen ddiwylliannol a’r profiadau ychwanegol mae’r pant yn cael trwy addysg Gymraeg mor werthfawr iddyn nhw a’r plant. Soniodd ei fod yn rhoi gogwydd arall iddynt ar Gymru, sy’n rhyfeddol o ystyried ei bod wedi’i magu yma meddai.

“I hate to admit that Kelly was right, but I can honestly say that sending our kids to Cylch and Welsh medium schools is the best thinsg we’ve ever done. Our son has just appeared on the Welsh version of Mastermind for kids, that proves that they haven’t lagged behind despite the fact that we don’t speak Welsh. Do it!”

Roedd Nia wrth ei bodd yn clywed sut mae plant Mike a Kelly wedi datblygu a ffynnu trwy’r penderfyniad dros Addysg Gymraeg, a sut mae eu rheini mor hapus dros y penderfyniad. Yn goron ar y bennod cafodd Nia ei rhyfeddu wrth glywed Mike yn adrodd Gweddi’r Arglwydd yn y Gymraeg – yr unig beth ddysgodd yn yr ysgol yn ei ol o, ond mae wedi sefyll gyda fo hyd heddiw!

Gallwch wrando ar y sgwrs yn llawn yma a chofiwch rannu gyda theuluoedd eraill sy’n ceisio penderfynu ar y llwybr cywir ar gyfer addysg eu plant ar hyn o bryd: https://www.podfollow.com/babysteps