Wrth dyfu i fyny yng Nghymru, fe dreuliais i nifer o brynhawniau glawog gyda fy mhen mewn llyfr. Rydw i’n cofio fy mam wedi ei chythruddo, yn mynnu rhaid fy mod i’n bwyta llyfrau, gan fy mod i’n llyncu eu cynnwys mor gyflym! Unwaith bob wythnos fe fyddwn yn ymweld â llyfrgell Bangor, ac yn teimlo siom mai dim ond pump llyfr y medrwn i fynd adref.  Yn ystod yr ysbeidiau heulog fe fyddwn i, fel ffrindiau fy mhlentyndod, allan yn archwilio’r ardal fwyaf anhygoel gall plentyn gael ei fagu ynddi… Yr Wyddfa, Llyn Padarn, Betws y Coed, Castell Penrhyn… roedd yna restr ddiddiwedd o lefydd hudol i’w harchwilio.

Gan neidio ugain (neu ddeg ar hugain) mlynedd i’r dyfodol, ymddangosai hysbyseb cynllun Awdura Mudiad Meithrin ar fy ffrwd Instagram. Llamodd fy nghalon yn fy mrest. Teimlai fel petai’r hysbyseb yn siarad yn uniongyrchol â fi! Roedd Awdura yn gyfle i gyfuno’r ddau beth fu’n dylanwad mawr arna i – fy annwyl Gymru a fy annwyl llyfrau.  Teimlwn yn emosiynol – doeddwn i ddim wedi dod ar draws cyfle llenyddol drwy’r Gymraeg yn benodol ar gyfer pobl o leiafrifoedd ethnig o’r blaen. Teimlwn, bryd hynny, fod hwn am fod yn brosiect arloesol. Menter oedd â’r potensial i dorri drwy’r rhagdybiaethau ynghylch llenyddiaeth Gymraeg. Na, does dim rhaid i ti fod yn Gymry Cymraeg i ysgrifennu stori Gymraeg. Ac mi gei di ysgrifennu am dy fersiwn di o Gymru, gan fod dy brofiad di o fod yn Gymry’r un mor bwysig ag un pawb arall.

Dwi’n hapus i adrodd mai dyna’n union sut y teimlaf heddiw, wedi fy nhrochi yn y prosiect Awdura. Hyd yn hyn rydyn ni wedi cynnal dau gyfarfod yn rhithiol. Cefais fy ngrymuso wrth wrando ar gyfranogwyr eraill Awdura, sydd o gefndiroedd ethnig amrywiol.  Gwelais fi fy hun yn eu straeon.  Ar ôl blynyddoedd o geisio ymdoddi i’r cefndir, teimlwn ei bod hi’n amser i mi gamu ymlaen ac amryfalu’r cefndir hwnnw. Mae gennym ddau fentor yn ein cyfarfodydd, sef yr awduron Cymreig sefydledig, Jessica Dunrod a Manon Steffan Ros. Ges i sesiwn un-i-un gyda Manon yn ddiweddar, ac roedd hi mor gynorthwyol ac yn gymaint o ysbrydoliaeth. Ar orffen yr alwad treulies i’r ddwy awr nesaf yn braslunio fy mwrdd stori; yn wir, roedd hi heibio hanner nos cyn i mi roi fy mhin i’w gadw!

Nawr fod yna siâp ar nifer o fy straeon, mae cam nesaf y daith ar Awdura yn edrych yn gyffrous iawn! Mae gennym weithdy yn Aberystwyth ym mis Hydref. Gwn mai dim ond siawns fach y bydd fy straeon yn cael eu cyhoeddi, ond bron bod hynny’n eilbeth i’r broses o ddysgu sut i ysgrifennu. Yn bendant, mae’n teimlo’n eilbeth i’r darlun mawr; i brosiect sy’n drobwynt, yn agor y drysau, yn gyfle i ddod â straeon amlddiwylliannol, gan awduron amlddiwylliannol, i holl blant Cymru.

Mili Williams