Mae Bethan Reynolds sy’n ddisgybl yn Ysgol Bro Myrddin wedi ennill gwobr arbennig Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam sy’n cynnig hyfforddiant cydnabyddedig wedi’i achredu i bobl sydd am weithio mewn sefydliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar gan drefnu lleoliadau gwaith i ymgeiswyr mewn Cylchoedd Meithrin, dosbarthiadau meithrin a meithrinfeydd ledled Cymru.
Mae Bethan Reynolds o St Clears wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn am ei gwaith ym Meithrinfa Dechrau Disglair, Caerfyrddin.
Wrth ddyfarnu’r wobr iddi, meddai Dirprwy Rheolwr Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam, Emma Jones:
“Mae hi mor braf gallu gwobrwyo a dathlu gwaith caled unigolion fel Bethan. Bydd ei phrofiad a’i hymdrech yn ysbrydoliaeth i eraill gobeithio”.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma –
Bethan Reynolds