Fel sefydliad sy’n angerddol am roi addysg Gymraeg i blant Cymru, mae Mudiad Meithrin yn hynod falch o weld fod Cylch Meithrin Llanilltud Fawr wedi cael cartref newydd.
Ddydd Iau, 9 Mehefin cafwyd agoriad swyddogol hyfryd i gaban newydd sy’n cartrefu Cylch Meithrin Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg. Mae’r Cylch Meithrin ar agor bob dydd o 8 y bore hyd 12.45, ac o 1.15 – 5.00 gan gynnig gofal cofleidiol gydag Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanilltud Fawr.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar rwydwaith genedlaethol o Gylchoedd Meithrin yn darparu Gofal Plant ac addysg gynnar sy’n apelgar i deuluoedd. Hyfryd felly yw gweld cartref newydd Cylch Meithrin Llanilltud Fawr sy’n destament i waith caled a phartneriaeth rhwng pwyllgor a staff y Cylch, Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol. Diolch i’r Dirprwy Weinidog Julie Morgan AS am ddod i’r agoriad swyddogol gydag arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett”.