Cefnogi Pwyllgor i gofrestru efo AGC
Wrth anwytho pwyllgor, efallai bod rhai heb glywed am Arolygaeth Gofal Cymru felly mae’r cyfle yn codi i gyflwyno nhw fel corff rheoleiddio’r sector gofal plant ac esbonio sut mae cydweithio efo nhw yn gallu sicrhau darpariaeth o’r ansawdd uchaf yn y Cylch Meithrin.
Rydym yn annog pwyllgor i ymgyfarwyddo efo’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac yn hapus i esbonio a thrafod unrhyw adran o’r ddogfen yma. Cyn dechrau ar gais i gofrestru Cylch Meithrin byddwn yn sicrhau bod yr Unigolyn Cyfrifol yn hyderus i drafod ansawdd y gofal, ansawdd yr adeilad ac agweddau iechyd a diogelwch. Efallai’r peth mwyaf heriol i rai sydd heb lawer o brofiad ym maes gofal plant yw deall a gweithredu ar gymarebau staff i blant. “Sawl plentyn 2 mlwydd oed gallwn gael efo 2 aelod o staff? Sawl plentyn 3 mlwydd oed?” Mae ffigyrau yn hedfan dros y bwrdd mewn cyfarfodydd!
Mae’r cyfrif “ar-lein” gyda AGC yn gallu achosi gofid i bwyllgor cyn cychwyn ond mae’n ddigon syml i esbonio pan fyddwn yn cefnogi’r unigolion i greu cyfrif. Ambell waith mae’n bosib cynnal sgwrs dros y ffon neu alwad fideo i fynd dros gwestiynau ar y ffurflen gychwynnol neu ambell waith mae cyfarfod wyneb yn wyneb yn gweithio’n well.
Gyda phrofiad o gefnogi ar nifer o geisiadau gallwn nodi o flaen llaw’r dogfennau bydd angen cyflwyno efo’r cais. Gallwn gefnogi’r pwyllgor i addasu polisïau’r Mudiad er mwyn defnyddio yn y Cylch Meithrin a darparu gwybodaeth am yr holl dempledi sydd ar gael ar ein mewnrwyd ar gyfer aelodau. Gall ambell ddogfen cymryd bach mwy o amser i’w baratoi ond mae cymaint o adnoddau i gynorthwyo ac enghreifftiau i ddarllen hefyd.
Mae’n ddefnyddiol i dynnu sylw pwyllgorau at elfennau’r cais bydd yn cymryd mwy o amser i gyflwyno efallai e.e., llythyr meddygol i sicrhau addasrwydd unigolyn cyfrifol neu wiriad GDG y Person â Gofal. Gobeithiwn trwy wneud hynny bydd popeth yn barod yn brydlon i gyflwyno.
Mae’n braf cydweithio efo lleoliadau wedyn yn paratoi ar gyfer ymweliad cyntaf AGC a chyfweliad yr Unigolyn Cyfrifol. Os ddaw unrhyw argymhellion o’r Arolygydd gallwn gynghori ar sut i weithredu ar rain a sicrhau bod y rhif cofrestriad yna yn cyrraedd y Cylch Meithrin cyn gynted â phosib.
Gallwn wedyn cefnogi’r pwyllgor a’r Unigolyn Cyfrifol i ymgyfarwyddo gyda’r cyfrif AGC ar lein ar ôl i’r cylch derbyn ei gofrestriad gan fod y cyfrif wedyn yn edrych bach yn wahanol. Mae hwn yn holl bwysig er mwyn i bawb deall sut mae gwneud newidiadau megis, newid y Person â Gofal/Unigolyn Cyfrifol, ehangu oriau’r Cylch, ayyb, er mwyn cadw’r cyfrif yn gyfredol.