Cylch Llangollen a’r pecyn LHDTC+
Sut rydym ni’n defnyddio…
Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+
gan Gylch Meithrin Llangollen
Ein Cylch
Mae dau leoliad i’n cylch yn Llangollen, sef ein cylch yn y capel sy’n gwasanaethu plant dwy a thair oed, a’n dosbarth yn Ysgol y Gwernant, sy’n darparu gofal cofleidiol i’r dosbarth meithrin hyd at 3yp. Dros y blynyddoedd mae ein cylch wedi mynd o nerth i nerth, ac mae’n parhau i dyfu. Rydym yn ffodus i gael tîm o saith ymarferydd rhagorol sy’n deall pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar. Y llynedd roedd gennym ni blentyn oedd â dwy fam, a wnaeth hi drafod hynny gyda ni.
Pam wnaethon ni ddefnyddio’r pecyn yn ein Cylch
Mae gennym lyfrau yn y lleoliad sy’n cynnwys gwahanol deuluoedd, sy’n dangos sut mae’r teuluoedd hynny yn edrych; er enghraifft roedd un teulu yn ferch ifanc yn byw gyda’i nain a thaid, un arall yn byw gyda’i mam yn unig, a’r llall yn deulu â dwy fam. Dwedodd un ferch, ‘Dim ond un fam sy gen i,’ ac atebodd y ferch arall, ‘Mae gen i ddwy fam a dwi mor lwcus!’. Roedd angen i ni drafod hyn a gwneud y plant yn ymwybodol mai dyma sut gall teuluoedd edrych, a pha mor anhygoel yw’r ffaith fod ganddi ddwy fam. Wnaethon ni weithgareddau gyda’n gilydd yn cyfeirio at y ffaith fod bob teulu yn wahanol, ac yn sgil hyn daeth nifer o brofiadau a gweithgareddau lle wnaeth y plant fodelu eu teuluoedd drwy arlunio, modelu gyda darnau rhydd neu dynnu llun ar yr iPad! Hefyd mae gennym blant yn y lleoliad sydd wedi colli rhiant neu frawd neu chwaer, sydd wedi gadael nhw’n rhan o deulu gydag un rhiant. Maen nhw’n trafod am y bobl hyn, ac rydym yn meddwl ei fod yn bwysig i wneud hyn a chaniatáu iddyn nhw drafod eu teimladau a holi cwestiynau.
Sut wnaethon ni rannu’r pecyn a sicrhau cyfle i’r holl staff ddeall y cynnwys a sut mae’n berthnasol iddyn nhw
Aethon ni drwy’r pecyn gyda’n gilydd mewn cyfarfod staff, a wnaeth y staff gwir mwynhau darllen y straeon gan deuluoedd eraill a chlywed eu safbwyntiau a’u profiadau o gael plant. Rydym wedi ei argraffu, ac mae ar gael i’w darllen ar unrhyw adeg.
Barn y staff ynghylch y pecyn
Wedi mwynhau darllen a rhannu eu meddyliau yn ystod y cyfarfod.
Y darn mwyaf defnyddiol o’r pecyn oedd:
Clywed straeon a phrofiadau’r teuluoedd ar gael plant, a chlywed sut wnaeth eu lleoliadau fynd i’r afael â’r pynciau.
Newidiadau a rhoddir ar waith yn y cylch ar ôl derbyn y pecyn
Dydyn ni ddim yn gwneud cardiau ‘Sul y Mamau/Tadau’ arferol, ond yn rhoi cyfle i’r plant greu cerdyn i rywun maen nhw’n eu caru, neu rywun sy’n arwr iddyn nhw.
Cyngor i Gylch Meithrin arall sy’n meddwl am neu’n ansicr am ddefnyddio’r pecyn
DEFNYDDIWCH Y PECYN! Mae’n llawn gwybodaeth bwysig, nid yn unig i rannu gyda’r staff a phlant, ond rhieni eraill hefyd. Dyma rywbeth dylid ei ddathlu.