Mae cynllun Sefydlu a Symud (SAS) yn brosiect penodol a reolir gan Mudiad Meithrin mewn ymateb i raglen waith #Cymraeg 2050 – miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef Strategaeth Iaith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2017. Nod y prosiect yw sefydlu 40 o Gylchoedd Meithrin newydd (gyda Chylch Ti a Fi ynghlwm) erbyn diwedd 2021.
Isod, ceir manylion o 8 cylch newydd a fydd yn agor eu drysau ym mis Medi 2021.
Cylchoedd Meithrin SAS yn agor mis Medi 2021
De Orllewin
- Cylch Meithrin Treletert, Sir Benfro – agor 06/09/2021
- Cylch Meithrin Nawmor, Cenarth, Ceredigion – agor 13/09/2021
- Cylch Meithrin yn Meithrinfa Highgate, Abertawe – Dyddiad i’w gadarnhau
De Ddwyrain
- Cylch Meithrin Caerllion, Casnewydd – agor 06/09/2021
- Cylch Meithrin Y Waun Ddyfal (Cathays), Caerdydd – agor 06/09/2021
Gogledd Ddwyrain
- Cylch Meithrin Borras, Wrecsam – agor 07/09/2021
- Cylch Meithrin yn Meithrinfa Toybox, Coleg Cambria, Sir Y Fflint –Dyddiad i’w gadarnhau
- Cylch Meithrin yn Meithrinfa Kingfisher Day Nursery, Sir Y Fflint –Dyddiad i’w gadarnhau