Credwn fod angen tîm o staff angerddol, cymwys, ac ymroddedig y tu ôl i bob plentyn hapus yn ein Cylchoedd Meithrin. Mae ein Harchwiliad Cymwysterau diweddar ar gyfer 2024–2025 yn tynnu sylw at y staff gwych sy’n gweithio yn Cylchoedd Meithrin ar draws Cymru — ac mae llawer i’w ddathlu! Mae’r data yn fwy na dim ond rhifau – mae’n gipolwg ar yr ymroddiad, proffesiynoldeb, a’r angerdd sy’n gyrru staff ein Cylchoedd Meithrin ar draws Cymru.

Cyfranogiad Ardderchog
Cyfrannodd 302 Cylch Meithrin (90% o’r rhai cymwys) at yr archwiliad, gan ddarparu data gwerthfawr am y cymwysterau, sgiliau iaith, ac anghenion staffio yn ein sector gan roi darlun manwl ac amserol o’n gweithlu. Mae’r canlyniadau’n dweud cyfrolau.

Staff Cymwys a Brwdfrydig
Casglodd yr archwiliad ddata gan 1,489 aelod staff – cyfartaledd o bron i bum person fesul lleoliad. Dyma beth ddatgelodd y data:

  • Mae bron hanner (49.3%) o’n lleoliadau yn cynnwys staff gyda chymwysterau Lefel 5, y rhai uchaf sydd ar gael yn y sector (225 unigolyn mewn 149 lleoliad).
  • Mae 93.7% o’r lleoliadau yn cyflogi staff cymwys Lefel 3, arwydd clir o’r safon gofal ac addysg sydd ar gael (798 staff ar draws 283 lleoliad).
  • Mae presenoldeb cryf o staff Lefel 4 (20.5%) a Lefel 2 (41.1%) yn dangos strwythur haenog a chefnogol o fewn pob lleoliad.
  • Ar ben hyn, mae cannoedd o staff yn meddu ar raddau, cymwysterau Chwarae, a thystysgrifau allweddol fel Diogelu Plant a Chymorth Cyntaf Pediatreg.

Mae hyn i gyd yn dystiolaeth o’r cymwysterau, sgiliau, a hyder sydd eu hangen i feithrin plant yn ddiogel, yn greadigol, ac yn effeithiol.

Yn ychwanegol i gymwysterau blynyddoedd cynnar craidd, mae gan ein gweithlu gyfoeth o sgiliau ychwanegol:

  • Mae 401 staff yn meddu ar raddau prifysgolion neu gymwysterau lefel uwch eraill, yn enwedig mewn astudiaethau addysg a phlentyndod.
  • Mae 372 staff wedi cwblhau cymwysterau Gwaith Chwarae (Lefel 2/3).
  • Mae 552 Arweinwyr/Rheolwyr wedi’u hyfforddi i Lefel 3 mewn Diogelu Plant.
  • Mae 831 Cynorthwywyr yn meddu ar gymhwyster Diogelu Plant Lefel 2.
  • Mae 1,151 aelod staff wedi cwblhau’r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatreg 12 awr.
  • Mae llawer o staff  wedi’u hyfforddi mewn hylendid bwyd, Makaton, defnydd EpiPen, ac ati — gan amlygu’r amrywiaeth o sgiliau sy’n cadw ein Cylchoedd yn ddiogel ac yn gynhwysol.

Yr Iaith Gymraeg:
Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg wrth galon popeth a wnawn, ac rydym yn falch bod yr archwiliad yn nodi bod:

  • 77.2% o staff yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
  • 183 staff yn derbyn hyfforddiant iaith Gymraeg.
  • 36 lleoliad yn dweud y byddai 63 o staff yn elwa o gefnogaeth iaith i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg ymhellach.

Anghenion Staffio
Wrth gwrs, fel pob sector, rydym yn wynebu heriau staffio. Er bod 222 aelod staff ar hyn o bryd heb gymwysterau, maent yn ennill profiad gwerthfawr mewn 137 lleoliad. Mae’n  galonogol deall fod llai o gylchoedd yn adrodd bod angen staff ychwanegol nag oedd y flwyddyn ddiwethaf — dim ond 72 lleoliad (sef tua ¼ y lleoliadau) sydd wedi nodi fod angen 105 aelod o staff ychwanegol.

Rydym hefyd yn falch o weld bod mwy o ddynion yn ymuno â’n timau, gan brofi bod gwaith blynyddoedd cynnar yn yrfa addas i bawb.

Rôl Hanfodol ein Pwyllgorau Rheoli Gwirfoddol
Mae 1,171 o unigolion yn gwirfoddoli ar Bwyllgorau Rheoli Gwirfoddol  y Cylchoedd Meithrin – cyfartaledd o bron i 4 ar bob pwyllgor. Mae ganddynt  rôl hanfodol i redeg ein Cylchoedd Meithrin yn effeithiol. Mae hyn yn arwydd o gefnogaeth y gymuned leol i’r sicrhau llwyddiant y Cylch Meithrin yn lleol.

Cymharu Data â’r Flwyddyn Ddiwethaf
Er bod ychydig yn llai o ymatebion nag y llynedd, mae’r ystadegau i gyd newyddion da wrth eu cymharu â rhai 2023–2024:

    • Mwy o staff fesul lleoliad (4.93 o gymharu â 4.91).
    • Mwy o aelodau pwyllgor ar gyfartaledd.
    • Llai o cylchoedd yn adrodd bod angen mwy o staff.
    • Mwy o ddynion yn gweithio yn y sector (22 dyn mewn 14 lleoliad).
    • Cynnydd mewn siaradwyr Cymraeg hyderus a staff yn derbyn cefnogaeth iaith.
  • Nifer uwch yn cwblhau hyfforddiant cymorth cyntaf pediatreg a diogelu.

Pam fod yr Ystadegau yma’n Bwysig

Y tu ôl i’r ystadegau yma mae straeon – o blant yn ynganu eu geiriau Cymraeg cyntaf, o dimau yn cefnogi ei gilydd trwy hyfforddiant, ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a’u teuluoedd sy’n elwa o’n darpariaethau gofal plant.

Mae’r ystadegau hyn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein staff, gwirfoddolwyr, a’n chymunedau. Wrth i ni barhau i adeiladu gweithlu cryf, cymwys, cyfrwng Cymraeg, rydym yn dathlu’r cynnydd ar bob lefel — ac yn edrych ymlaen at y daith sydd o’n blaen.

Rydym yn hynod falch o’r hyn y mae’r archwiliad hwn yn ei ddatgelu. Mae’n arwydd ein bod yn symud ymlaen gyda hyder, gofal, ac ymrwymiad i addysg a gofal blynyddoedd cynnar o’r radd flaenaf i’r plant ym mhob Cylch Meithrin.

Diolch o galon i bawb a gymerodd ran yn yr archwiliad ac i’n holl staff, gwirfoddolwyr, a chefnogwyr. Mae’n amlwg bod eich ymdrechion yn gwneud gwahaniaeth mawr! Gadewch i ni barhau i dyfu, dysgu, a meithrin y dyfodol gyda’n gilydd.