Hud y Lleisiau Bach – Premiere i Ddathlu’r Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam
Mae Wrecsam yn barod i ddisgleirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth i blant y Cylchoedd Meithrin lleol gamu i’r sgrin fawr gyda ffilm fer arbennig: Hud y Lleisiau Bach: Crwydro Cylchoedd Wrecsam. Bydd y ffilm yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar dydd Sul, Awst 3ydd am 2 o’r gloch yn yr Emporiwm (Pentre Plant), ac mae croeso cynnes i bawb ddod i’r dangosiad.
Yn y ffilm, mae Dewin a Doti yn teithio o amgylch sir Wrecsam, yn chwilio am hud y lleisiau bach Cymraeg i roi pŵer i’w Balalŵn (gan ei bod yn cael ei phŵeru gan yr iaith Gymraeg) – er mwyn gallu hedfan i’r Eisteddfod! Ar eu taith, maen nhw’n cwrdd â phlant sy’n canu, yn chwarae ac yn dathlu hanes a hud eu cymunedau. O’r bryniau tawel i’r stadiwm pêl-droed hanesyddol, o gaeau Parc Acton i bont Pontcysyllte, mae’r ffilm yn dangos bod y Gymraeg yn fyw ym mhob cornel o’r sir.
Meddai Fflur Dafydd, Arweinydd Prosiect Sianel Dewin a Doti:
“Mae wedi bod yn bleser ymweld â’r holl Gylchoedd Meithrin yn sir Wrecsam a chael cyfarfod tua 200 o gymeriadau bach doniol ac annwyl yr ardal! Mae’r ffilm yn ffordd wych o ddathlu’r cylchoedd a’u cymunedau. Bydd y ffilm yn cael ei dangos ar Sianel YouTube Dewin a Doti ym mis Awst er mwyn i bawb fedru ei mwynhau ar ôl y ‘premiere’ arbennig yn yr Eisteddfod. Dewch i ddathlu’r lleisiau bach Cymraeg sydd i’w clywed ar hyd y sir yn Wrecsam.”
Mae’r ffilm yn llawn cerddoriaeth, chwerthin a chreadigrwydd – gyda golygfeydd o blant yn can, yn chwarae offerynnau, yn dawnsio, yn paentio ac yn mwynhau picnic yn y goedwig, gan ddangos bod iaith a diwylliant Cymreig yn fyw yn y sir.
Yn ogystal â dangosiad arbennig o’r ffilm, bydd gorymdaith liwgar o deuluoedd lleol a staff yn cario baneri Cylchoedd Meithrin yn cael ei chynnal ar y maes am 11.30 gan ddiweddu wrth lwyfan y maes lle bydd sioe Jambori Meithrin – perfformiad llawn hwyl a chanu i’r teulu cyfan yn cael ei gynnal i ddiddanu’r plant.
Meddai Ceri Edwards, Rheolwr Talaith y Gogledd-ddwyrain:
“Mae’r Cylchoedd Meithrin wedi bod yn brysur yn ymarfer y gwahanol ganeuon fydd yn rhan o’r ffilm ac mae’r plant wedi mwynhau’r profiad o fod yn sêr y sgrin! Bydd y baneri lliwgar maen nhw wedi bod yn eu creu werth eu gweld wrth iddyn nhw orymdeithio i ddathlu addysg Gymraeg yn yr Eisteddfod.”
Bydd croeso i bob plentyn a’i deulu fydd yn yr Eisteddfod ar y dydd Sul i ymuno yn yr orymdaith ar hyd y maes ac i fwynhau’r sioe ar y llwyfan.