Mae Mudiad Meithrin a’r Urdd yn falch i gyhoeddi mai Lili Walford o Gastell-nedd yw enillydd y gystadleuaeth arloesol i ddod o hyd i dalent newydd i ddiddanu plant ifanc rhwng 2-4 oed a’u rhieni.

Cyhoeddwyd mai Lili Walford oedd enillydd cystadleuaeth Meithrin Talent -Talent Meithrin ar lwyfan y Cyfrwy yn Eisteddfod yr Urdd 2025 ym Mharc Margam ddydd Sadwrn gan dderbyn gwobr ariannol o £300 (a gyfrannwyd gan Mudiad Meithrin) a’r cyfle i berfformio mewn sioe ar Daith Gŵyl Dewin a Doti Mudiad Meithrin yn 2025.

Meddai Lili:
“Fel cynorthwy-ydd dosbarth mewn ysgol gynradd, rwyf wrth fy modd yng nghwmni plant ac yn deall beth mae’n nhw’n mwynhau. Rwyf wrth fy modd yn perfformio ac rwy’n aelod o Theatr Gerdd Castell-nedd, ac eleni roeddwn wedi cymryd rhan yn y sioe Ceridwen gyda Chwmni Theatr yr Urdd. Roedd y profiad o berfformio’n fyw a gweld ymateb y plant wrth i mi berfformio ar lwyfan yr Adlen ddydd Sadwrn yn brofiad gwych. Diolch i Mudiad Meithrin a’r Urdd am y cyfle arbennig yma.”

Mae cystadleuaeth ‘Meithrin Talent – Talent Meithrin’ yn agored i aelodau’r Urdd rhwng 16-24 oed gyda’r cystadleuwyr yn derbyn sesiwn fentora ar-lein gan Siân Elin James (neu’r diddanwr plant Siani Sionc fel y mae’n cael ei hadnabod). Diwedd y daith oedd y cyfle i berfformio yn yr Adlen ar faes Eisteddfod yr Urdd o flaen cynulleidfa o blant a’r panel beirniaid a oedd yn cynnwys Siân Elin James, Iola Jones a Nerys Fychan o Mudiad Meithrin.

Meddai Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:
“Roeddem fel Mudiad yn awyddus i ddod o hyd i dalent newydd i ddiddanu plant ifanc iawn, yn y gobaith o ddod o hyd i dalentau newydd fyddai’n addas i gynnal Taith Gŵyl Dewin a Doti (sy’n daith tair wythnos o hyd) yn y dyfodol. Felly dyma greu partneriaeth gyda’r Urdd i gynnal y gystadleuaeth yma ar y cyd ac roedden ni’n hynod falch o safon uchel y perfformiadau.”

Daeth Courtney-Olwen Manel o Lundain,  yn ail yn y gystadleuaeth a Deryn Bach Allen Dyer yn drydydd gyda’r ddwy yn dderbyn gwobr o £100 yr un.

Bwriedir cynnal y gystadleuaeth yma ar y cyd gyda’r Urdd eto’r flwyddyn nesaf.

Lili Walford
Courtney-Olwen Manel
Deryn Bach Allen Dyer