Blog | 12 Aws 2021

‘Meithrin Iaith … Ymlaen at y Filiwn’ – Angharad Morgan

Wrth gyhoeddi’r strategaeth iaith Gymraeg Cymraeg 2050 yn 2017, gosododd Llywodraeth Cymru targed iddi hi’i hun o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn.

Ers bron i ddegawd bellach, bu disgwyl i Awdurdodau Lleol Cymru cynllunio ar gyfer cynyddu argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.  Wrth gyhoeddi Cymraeg 2050, nodwyd yn glir gan Lywodraeth Cymru mai trochi cyfrwng Cymraeg yw’r model mwyaf dibynadwy ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc i ddod yn siaradwyr a defnyddwyr hyderus o’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.

Yn y cylch cynllunio 2021 – 2026, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg gyda’r bwriad o gryfhau a chynyddu argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.  Bwriad arall y Bil yw sicrhau bod y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn gwneud mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn fwy hygyrch a theg.

Rydym ar drothwy carreg filltir bwysig i addysg Gymraeg ac i weledigaeth Llywodraeth Cymru.  Mae 22 Awdurdod Lleol Cymru yn datblygu eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer y cyfnod 2022 – 2032.  Nod Llywodraeth Cymru yw y bydd 30% o ddisgyblion ysgolion Cymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn diwedd y cylch cynllunio yn 2032.  Targed sydd yn uchelgeisiol, ond o fewn ein cyrraedd.

Am y tro cyntaf, mae disgwyl i’r Awdurdodau Lleol gynllunio ar gyfer cryfhau ac ehangu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg.  Dyma gynlluniau fydd yn bwysig i strategaeth 5 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg o’r blynyddoedd cynnar ymlaen a thrwy gydol oes yr unigolyn.

Un agwedd bwysig o’r ddarpariaeth hyn, yw darpariaethau gofal cynllun Dechrau’n Deg, ac rydym ni fel mudiad yn awyddus i barhau i gyd-weithio gyda’r Awdurdodau Lleol i gynyddu argaeledd llefydd cyfrwng Cymraeg y cynllun pwysig hwn.

Gyda chyhoeddiad y Rhaglen Waith 2021 –  2026 nodwyd targed i gynyddu’r % o ddisgyblion 6 – 7 oed sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg i 1 o bob 4 plentyn ac i agor 60 grŵp meithrin cyfrwng Cymraeg ychwanegol dros yr un cyfnod.  Yn amlwg, mae hyn yn bwysig i ni fel Mudiad Meithrin.  Mae hi hefyd yn bwysig i deuluoedd, gan fod lleoliadau gofal cyfrwng Cymraeg, fel Cylchoedd Meithrin yn cynnig y cam cyntaf ar lwybr di-dor tuag at addysg cyfrwng Cymraeg i nifer o blant.

Mae nifer o wasanaethau eraill yn cael eu cynnig i rieni yn ystod blynyddoedd cyntaf eu plant.  Mae gweithgareddau Cymraeg i Blant a Chlwb Cwtsh yn benodol yn ceisio codi hyder rhieni i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i phlant, a Chylchoedd Ti a Fi yn cynnig man cwrdd i rieni a’u plant drwy gyfrwng y Gymraeg.   Gweithgareddau sydd yn cefnogi polisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd ac yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg gan blant a’u teuluoedd, gyda ffocws ar bontio rhwng y byd addysg a gofal, y gymuned a’r teulu ei hun.

Rhaid hefyd ystyried rôl oedolion mewn gwireddu ein huchelgais cenedlaethol o gynyddu nifer y siaradwyr ac o wreiddio’r Gymraeg yn ehangach yn ein cymunedau.  Er mwyn cynyddu nifer y plant sydd yn medru manteisio ar ofal cyfrwng Cymraeg, rhaid hefyd i ni fuddsoddi mewn a chynyddu nifer yr ymarferwyr blynyddoedd cynnar cymwys sydd hefyd yn meddu ar y sgiliau Cymraeg angenrheidiol.

Gweler cynlluniau fel cynllun Camau‘r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn hollbwysig i ddatblygiad gweithlu sydd yn hyderus yn eu Cymraeg. Ond, rhaid hefyd nodi pwysigrwydd sicrhau cyfleoedd hyfforddi a chymhwyso drwy gyfrwng y Gymraeg i’r sawl sydd am gychwyn gyrfa yn y maes.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn, ac maent am ehangu’r rhaglen hyfforddiant i ymarferwyr y blynyddoedd cynnar drwy gynyddu cyfleoedd prentisiaethau ac ehangu’r rhaglen Croesi’r Bont sy’n trochi ymarferwyr newydd yn y Gymraeg.

Eleni, mae Mudiad Meithrin yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed.  50 mlynedd o gefnogi a datblygu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.

Edrychwn ymlaen ddathlu’r 80 yn 2051 gan wybod ein bod wedi cyfrannu at adfywiad y Gymraeg yng nghymunedau ledled Cymru … a mwy na miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn hynny.