Mae’r feithrinfa gofal dydd llawn Cymraeg gyntaf erioed yng Nghasnewydd bellach ar agor. Mae Wibli Wobli yn cynnig gofal dydd llawn rhwng 7:30yb i 6yh o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae wedi’i leoli yn Nhŷ-du.

Mae’r feithrinfa mewn adeilad ar ei newydd wedd gydag offer newydd sbon ac ardal awyr agored, cegin fawr gyda chogyddes meithrinfa a staff y feithrinfa sy’n siarad Cymraeg.

Mae gan Wibli Wobli gynlluniau mawr i danio diddordeb mewn rhieni i roi eu plant mewn sefyllfa Gymraeg ac i dynnu sylw at fanteision dod â phlant i iaith arall yn ifanc.

“Rydym am fynd i’r afael â’r camsyniad na fydd plant yn deall nac yn ffynnu mewn lleoliad Cymraeg. Mae plant fel sbyngau ac yn dysgu ieithoedd eraill yn naturiol ac yn haws o lawer na’u rhieni”.

“Mae’r manteision yn ymestyn ymhell y tu hwnt i allu siarad Cymraeg yn unig, mae’n datblygu sgiliau gwybyddol yn gyffredinol, gan gynnwys meddwl beirniadol, cof a’r gallu uwch i brosesu pob iaith gan gynnwys eu mamiaith. Heb sôn am y cyfleoedd gyrfaol yng Nghymru yn y dyfodol petaent yn parhau ag addysg cyfrwng Cymraeg”.

Mae’r feithrinfa hefyd yn datblygu ap meithrinfa dwyieithog newydd sbon gyda Wootzoo, busnes o Gaerdydd. Dyma’r unig feddalwedd meithrinfa sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar hyn o bryd (mae rhieni’n dewis a hoffent gael eu cyfrif yn Saesneg, yn Gymraeg neu’r ddau). Bydd ganddo lawer o nodweddion a fydd yn annog rhieni i gael hwyl yn dysgu Cymraeg gartref hefyd.

“Rydyn ni eisiau i rieni gymryd diddordeb yn yr iaith. Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o’n rhieni yn ddi-Gymraeg, felly byddem wrth ein bodd pe baent yn dysgu’r iaith ochr yn ochr â’u plant”.

Mae gan Wibli Wobli hefyd gynlluniau i gyflwyno lleoliadau gwaith a chynlluniau gydag ysgolion a cholegau lleol fel bod myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn cael y cyfle i barhau i ddefnyddio eu Cymraeg yn rhugl a gweithio ym maes gofal plant. Os yw’r llywodraeth am gyrraedd eu targed o fwy o siaradwyr Cymraeg mae angen mwy o weithleoedd Cymraeg fel Wibli Wobli, fel arall nid yw pobl yn defnyddio eu Cymraeg mewn cyd-destun bob dydd.

Mae’r feithrinfa yn edrych i fod yn rhan fawr o’r gymuned leol gyda phlant yn ymweld â’r cyflenwr ffrwythau a llysiau lleol, yr ardd gymunedol leol a’r cartref gofal a’r llyfrgell leol. “Rydym eisiau i rieni a’r gymuned weld bod eu plant yn gallu ffynnu mewn awyrgylch Gymraeg a chael profiad cadarnhaol o’r iaith”.