Mudiad Meithrin yn rhoi sylw ar gyfleodd ym maes blynyddoedd cynnar
Gydag argyfwng recriwtio yn wynebu’r sector gofal ac addysg blynyddoedd cynnar mae Mudiad Meithrin yn awyddus i dynnu sylw at y gyrfaoedd sydd ar gael yn y maes. Dyma sydd wrth wraidd wythnos arbennig fydd yn hyrwyddo cynlluniau hyfforddiant Gofal Plant Mudiad Meithrin a’r profiadau gwerthfawr sydd i’w cael wrth weithio gyda phlant bach.
Yn ystod yr wythnos bydd digwyddiad ffrydio byw ar gyfer denu myfyrwyr i ddilyn cynllun prentisiaid ym maes gofal plant a bydd cyfres o ffilmiau byr yn cael eu rhyddhau i roi blas ar y gwaith mewn Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd ar hyd a lled Cymru.
Mae Helen Williams, yn Bennaeth Hyfforddiant Mudiad Meithrin.
Dywedodd: “Ry’n ni’n edrych ymlaen at wythnos llawn bwrlwm fydd yn dangos yr amrywiaeth gwych o swyddi sydd ar gael yn y sector yma a’r boddhad sydd i’w gael wrth weithio efo plant ifanc.
“Mae’n Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd yn gyffredinol wedi bod yn ei chael hi’n anodd denu a chadw staff ers nifer o flynyddoedd. Ry’n ni’n awyddus i ddangos felly bod hwn yn faes sydd wir ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygiad babanod a phlant. Mae cyfleodd unigryw i helpu siapio’r genhedlaeth nesaf yn ogystal, wrth gwrs, â chyflwyno’r Gymraeg neu i gyfoethogi’r Gymraeg sydd ganddyn nhw’n barod.
“Trwy’r cyrsiau ry’n ni’n eu cynnig, gall pobl dderbyn hyfforddiant o’r safon uchaf drwy gyfrwng y Gymraeg – cyrsiau all arwain at addysg bellach a gradd prifysgol, neu yn syth at waith sy’n rhoi boddhad ac yn cynnig hyblygrwydd, ym mhob rhan o Gymru.”
Mae Helen yn awyddus i annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes i ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos er mwyn dysgu a chael blas ar yr hyn sy’n cael ei gynnig o ran hyfforddiant a gwaith.
Bydd holl fwrlwm yr wythnos yn cael ei rannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Mudiad Meithrin.