Mae Mudiad Meithrin yn falch o gyhoeddi fod prosiect i sefydlu sianel YouTube newydd Dewin a Doti wedi cychwyn yn llawn bwrlwm a chyffro. Gyda diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am grant o bron i £497,000 bydd hyn yn galluogi’r Mudiad i greu llyfrgell o tua 120 o fideos byr wedi’u hanelu at blant bach a’u teuluoedd dros gyfnod o dair blynedd.

Mae’r grant wedi galluogi’r Mudiad i benodi tîm o dri aelod o staff newydd ddechrau Ionawr i wireddu’r prosiect sef Fflur Dafydd (Arweinydd Prosiect Digidol), Rhodri Williams (Uwch Swyddog Ffilmio a Golygu) a Gwenno Haf Jones (Swyddog Marchnata Digidol).

Meddai Fflur Dafydd, Arweinydd y Prosiect:

Dwi’n falch iawn i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn. Mae cymaint o gefnogaeth a chynnwrf o fewn y Mudiad am y prosiect mae’n fraint cael bod yn rhan ohono. Dwi’n edrych ymlaen at weithio â chymunedau lleol y Mudiad ledled Cymru i gynhyrchu cynnwys fydd yn dathlu ein diwylliant a’n hiaith gan ddod â’r Gymraeg i gartrefi plant bach a’u teuluoedd.”

Mae Dewin a Doti eisoes yn cael eu hadnabod fel cymeriadau hoffus Mudiad Meithrin a byddant yn rhan greiddiol o gynnwys y sianel. Gyda chyfraniad teuluoedd a chymunedau Mudiad Meithrin bydd y sianel yn cyflwyno amrywiaeth o gynnwys addysgiadol a difyr gan ddod â gwaith pwysig Mudiad Meithrin i blatfform ar-lein sydd yn rhwydd a diogel i’w ddefnyddio.

Dywedodd Rob Roffe, Pennaeth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin:
“Llongyfarchiadau i Mudiad Meithrin ar eich grant. Edrychwn ymlaen at weld y gwaith creadigol rydych chi’n ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg i blant ifanc a’u teuluoedd gyda’r fideos newydd hyn. Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw’r ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU sy’n dosbarthu mwy na £30 miliwn yr wythnos. Mae grantiau yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. “

Mae’r tîm newydd yn brysur iawn yn paratoi i gynhyrchu’r gyfres gyntaf o fideos gan anelu i’w rhyddhau mor gynnar â mis Mawrth 2024. Tybed a welwch chi Dewin a Doti yn ffilmio yn eich ardal chi? Gwyliwch y gofod hwn…!

 

Cofrestrwch yma i gael gwybod pryd fydd y sianel yn fyw – https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=jhmKAM-Jk0qHcilDUfkmWkdxwI8dSBNGpLgnoyqd_0NURDgzQlhIWURET1JOM0VUVVlZSlBKQzdRVy4u

Rhodri Williams, Fflur Dafydd a Gwenno Jones