Yng Nghyfarfod Blynyddol Cyffredinol y Mudiad ar nos Fawrth yr 22ain o Dachwedd, fe gyhoeddwyd mai Dr Catrin Edwards fydd yn olynu Dr Rhodri Llwyd Morgan fel Cadeirydd newydd Mudiad Meithrin.

Mae Catrin yn arweinydd yn y trydydd sector a’i harbenigedd yw polisi cyhoeddus a materion allanol ym maes gofal. Mae ganddi dros ddegawd o brofiad yn datblygu mudiadau cenedlaethol ac yn dylanwadu ar bolisi er mwyn rhoi hawliau ar waith. Mae ei phrofiad yn y trydydd sector yn cynnwys anghenion dysgu ychwanegol, anabledd, gofal diwedd oes ynghyd â chynllunio ieithyddol.

Mae Catrin yn fam i ddau o blant bach ac yn byw gyda’i theulu yng Nghaerdydd lle bu’n aelod o bwyllgor Cylch Meithrin Y Parc am gyfnod. Mae’n aelod balch o Fwrdd Mudiad Meithrin ers 2021.

Meddai Catrin ar ddechrau ei chyfnod:

“Braint o’r mwyaf yw cael cadeirio Bwrdd Mudiad Meithrin dros y cyfnod nesaf. Edrychwn yn ôl gyda balchder at yr hanner canrif o lwyddiant a thyfiant, ac ymlaen at yr heriau sy’n ein hwynebu yn yr hanner canrif i ddod. Mawr ddiolch i Rhodri Llwyd Morgan sy’n trosglwyddo’r awenau ataf ar ôl cyfnod o chwe mlynedd ffyniannus wrth y llyw. Mae ein dyled i Rhodri yn fawr.”

 

Yn ystod y cyfarfod hefyd cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol am y cyfnod 2021-2022 a chafwyd cyfle i ddathlu’r ffaith fod data niferoedd y plant mewn Cylchoedd Meithrin wedi cynyddu unwaith eto eleni gan ddychwelyd i’w niferoedd cyn-Cofid. Mae hyn yn galonogol ac yn dangos fod y sector wedi goroesi’r cyfnod.

Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

”Mae’n braf cael adrodd fod niferoedd y plant sydd yn mynychu’r Cylchoedd Meithrin wedi cynyddu unwaith eto eleni. Carwn ddiolch yn fawr i’r holl staff a gwirfoddolwyr ar lawr gwlad sydd wedi cefnogi’r cylchoedd a’n galluogi ni i weld yr adferiad sydyn hwn.”

Ychwanegodd Catrin:
“Mae sicrhau bod y Gymraeg, ac felly’r Mudiad, yn perthyn i bob cymuned lle mae ‘na blant bach yn uchelgais y mae’n rhaid inni ei gwireddu. Gwnawn hyn trwy bartneriaeth a chydweithio, ac edrychaf ymlaen at gefnogi’r Bwrdd, y Prif Weithredwr a holl staff y Mudiad i fwrw ati!”

 

Dyma ddolen i Adroddiad Blynyddol Mudiad Meithrin 2021-22

Catrin Edwards
Catrin Edwards