Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg mae Mudiad Meithrin yn falch o gyhoeddi enw’r ymgyrch godi arian flynyddol i gylchoedd eleni sef “Cylchoedd yn Cerdded”.
Gyda llai na mis i fynd, mae’r ymgyrch hon wedi ei chreu i helpu pwyllgorau rheoli’r cylchoedd i gynnal gweithgaredd godi arian rhwydd a hwyliog i’w lleoliadau gofal plant. Mae’r ymgyrch yn gwahodd yr holl aelodau a phawb sy’n rhan o gymuned Mudiad Meithrin a chymunedau lleol ledled Cymru i gynnal teithiau noddedig fel ffordd hwyliog o godi arian i gefnogi’r cylchoedd/meithrinfeydd dydd ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.
Mae cerdded yn ymarfer corff syml, am ddim ac sy’n addas i bob oedran – ffordd wych o gael y teuluoedd i gymdeithasu a chymryd rhan, mwynhau’r awyr iach, a hyrwyddo’r neges bwysig fod corff iach yn sail i feddwl iach.
Sut i gymryd rhan:
Anogir cylchoedd a meithrinfeydd i addasu’r ymgyrch i gyd-fynd gyda’u lleoliad a’u cymunedau. Ymhlith yr awgrymiadau mae:
· Gosod her gerdded ddyddiol i’r staff a’r plant yn y cylch/meithrinfa
· Trefnu taith gerdded noddedig yn ystod amser y cylch neu’r feithrinfa.
· Mapio llwybr lleol i annog y gymuned ehangach i gymryd rhan.
· Gwahodd ‘selebs’ lleol neu gyfeillion y cylch/meithrinfa i gynnal her gerdded noddedig.
Mae’r ymgyrch yn cynnig ffordd syml, effeithiol a diogel o godi arian—ac mae pob ceiniog yn cyfrannu at gryfhau cyfleoedd addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Jamie Bevan yn enghraifft anhygoel o sut mae un unigolyn am wneud taith arbennig i godi arian i’r Cylch Meithrin lleol.
Mae Jamie Bevan o Ferthyr Tudful yn mynd y filltir ychwanegol, neu 3,000 o filltiroedd yn ychwanegol i fod yn fanwl gywir, trwy gychwyn taith 3,000 milltir o Ferthyr Tudful i Istanbul er budd Cylch Meithrin y Gurnos. Bydd Jamie yn cychwyn ar ei daith anturus ar 7 Ebrill ac yn teithio trwy 11 o wledydd dros bedwar i bum mis, gan wersylla mewn rhai o dirweddau gwyllt a mwyaf anghysbell Ewrop.
Fel tiwtor Cymraeg ac ieithydd brwd, mae Jamie yn gweld y daith fel cyfle i ymgolli yn ieithoedd a diwylliannau’r gwledydd y bydd yn pasio trwyddynt ac mae’n awyddus i rannu hanesion am Gymru a’r Gymraeg gyda’r cymunedau y bydd yn eu cyfarfod.
Mae’r her hon yn deillio o’i ymrwymiad i gefnogi ei Gylch Meithrin lleol, sy’n darparu cyfleoedd blynyddoedd cynnar hollbwysig i blant yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Merthyr.
Meddai Jamie:
“Yng Nghylch Meithrin Y Gurnos, mae plant yn cael cyfle gwirioneddol i ffynnu. Maen nhw’n cael eu cyflwyno i’r Gymraeg o’r cychwyn cyntaf, gan helpu i gadw’r iaith yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, nid yn unig mewn ysgolion, ond mewn cartrefi, cymunedau a bywyd bob dydd. Bydd pob punt a godir drwy’r daith gerdded hon yn mynd yn uniongyrchol i Gylch Meithrin y Gurnos.”
Mae Jamie’n gobeithio codi llawer o arian ar hyd ei daith tuag at y Cylch Meithrin ac mae modd cyfrannu yma – https://tinyurl.com/mnwj7zu6