Eleni, mae Mudiad Meithrin yn dathlu pen-blwydd arbennig wrth iddynt ddathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1971. Er gwaethaf y cyfyngiadau sydd mewn grym yn sgil pandemig Covid-19, mae llu o weithgareddau yn cael eu trefnu ar hyn o bryd er mwyn nodi’r achlysur arbennig hwn. Gweler restr ohonynt isod:
- Mae logo Mudiad Meithrin newydd wedi cael ei ddylunio yn arbennig ar gyfer dathlu’r 50.
- Mae llu o gwmnïau Cymreig wedi cyfrannu at hamper o nwyddau fel gwobr i gystadleuaeth yn arbennig i’r Cylchoedd i greu unrhyw beth fel rhan o’r dathliadau e.e. arddangosfa, cerdyn pen-blwydd a.y.y.b.
- Bydd 50 Cylch Meithrin yn derbyn capsiwl amser i’w claddu, a bydd 50 Cylch Meithrin arall yn derbyn coed afalau i’w plannu yn yr Hydref. Bydd placiau yn cael eu rhoi gyda rhain er mwyn nodi’r achlysur.
- Mae Lowri Roberts (enillydd y gystadleuaeth ar raglen ‘Y Stiwdio Grefft’, S4C) wedi creu llun i gyd-fynd ag englyn a gyfansoddwyd yn arbennig gan Archdderwydd Cymru, Myrddin ap Dafydd – bydd hwn yn cael ei rannu i’r holl Gylchoedd a Meithrinfeydd dydd.
- Mae cyfres o fideos ‘Dawnsio gyda Dewin a Siani Sionc’ wedi cael eu creu a bydd DVD o’r rhain yn cael eu rhoi i’r Cylchoedd ynghyd â’u rhannu ar Youtube.
- Mae Llyfr Dathlu 50 wrthi’n cael ei awdura gan Mererid Hopwood gan anelu at ei lawnsio fis Hydref.
- Cynhelir Gŵyl Dewin a Doti Rhithiol 14-18 Mehefin gyda Martyn Geraint, Siani Sionc, Dewin a Doti.
- Cynhelir ‘Wythnos Parti Dathlu 50’ yn ystod wythnos 5 -10 Gorffennaf 2021. Bydd y cylchoedd yn derbyn ‘pecyn dathlu’ ar gyfer cynnal y dathliadau hyn yn fuan.
- Mae dros 80 o ‘selebs’ Cymru wedi creu fideos byr i ddymuno pen-blwydd hapus i’r Mudiad a bydd rhain yn cael eu rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol o fis Mai ymlaen.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Holl genhadaeth a phwrpas ein gwaith yw defnyddio’r blynyddoedd cynnar fel cyfrwng i greu siaradwyr Cymraeg newydd o blith y plant na fyddai’n siarad Cymraeg fel arall ac mae’r profiad o ddysgu trwy chwarae yn holl bwysig yn ei hawl ei hun. Ond credaf mai gwaddol mwyaf y Mudiad fydd gweld nad oes mo’i angen ryw ddiwrnod, pan bydd ein cyfundrefn gofal ac addysg yn darparu’r gefnogaeth orau posib i’r plant lleiaf a hynny’n awtomatig trwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithio y gwireddir hynny cyn cyrraedd y 100fed pen-blwydd!”