Mae Mudiad Meithrin yn bwriadu trefnu nifer o weithgareddau i gefnogi Tîm Cymru yng Nghwpan y Byd fis Tachwedd yn dilyn cyhoeddiad eu bod wedi derbyn grant o’r Gronfa Cymorth i Bartneriaid Cwpan y Byd.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Yn aml, anghofir am blant yn y blynyddoedd cynnar mewn ymgyrchoedd cenedlaethol o bwys heb weld y potensial iddynt gyfranogi a mwynhau yn y gweithgareddau gydag effaith bell-gyrhaeddol ar eu llesiant. Rydym yn angerddol am roi’r cyfleon hyn i’r plant ifanc sydd yn derbyn eu gofal a’u haddysg gynnar yn ein lleoliadau amrywiol, ac yn edrych ymlaen at y cyfle o gydweithio gyda phartneriaid newydd.”
Un o’r digwyddiadau hyn fydd Disg-goch Pob Lwc Cymru! fydd yn rhan o wythnos Dawnsathon y Mudiad sef ymgyrch godi arian i Gylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd dydd ar lawr gwlad.
Bydd Disg-goch ‘Pob Lwc Cymru’ yn cael ei gynnal ar 16 Tachwedd – wythnos cyn Cwpan y Byd – lle bydd plantos bach Cymru yn cael eu hannog i wisgo coch ar y diwrnod a dawnsio yn y Disg-goch yn eu Cylchoedd Meithrin ar hyd a lled Cymru.
Yn ogystal â hyn bydd pecyn gweithgareddau ar thema Cwpan y Byd FIFA 2022 yn gael ei greu a’i rannu i’r 1,000 o grwpiau’r Mudiad. Bydd y pecyn yn cynnwys llyfr am Dewin a Doti (cymeriadau’r Mudiad) yn mynd i gêm bêl-droed, cân arbennig gan Siani Sionc, posteri’n cefnogi pêl-droed Cymru, a sesiwn ar thema Cwpan y Byd yn un o sesiynau dechrau Dysgu Cymraeg Cynllun Clwb Cwtsh gan gydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Ychwanegodd Gwenllian:
“Bydd y prosiect arbennig yma’n hyrwyddo Cymru gan amlygu ein gwerthoedd a sicrhau etifeddiaeth bositif a pharhaol ym meddyliau’r plant bach fydd yn cyfranogi. Bydd pob un ohonom yn cofio gwaddol ac effaith gweithgareddau difyr o’n plentyndod a bydd natur totemig Cymru yng Nghwpan y Byd yn golygu creu atgofion pwysig.”