22 Ebr 2025

Mudiad Meithrin yn gwahodd aelodau i fod yn rhan o grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu modelau rheoli amrywiol i Gylchoedd Meithrin

Wrth i Mudiad Meithrin baratoi ei strategaeth newydd, bydd yn cynnal adolygiad o addasrwydd holl fodelau rheoli/llywodraethu amrywiol sydd ar gael i ddarparwyr gwasanaethau gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae gan ystyried eu cryfderau a’u gwendidau. Mae hyn yn rhan o raglen dreigl ble ystyrir sut orau i ymateb i gyfleon a heriau y sector gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae.

Ar sail hynny, bydd yr adolygiad yn cynnig argymhellion i’r dyfodol fel rhan o’i strategaeth newydd dros y 5 mlynedd nesaf.

Ar gynffon gwaith ein grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu trefniadau llywodraethiant Mudiad Meithrin yn genedlaethol, bydd y Mudiad yn lawnsio grŵp gorchwyl a gorffen i ymgymryd â’r gwaith gan chwilio am aelodau i fod yn rhan o’r grŵp.