Hwre, ti wedi gorffen y cwrs. Llongyfarchiadau

Fel sefydliad sy’n angerddol am roi addysg Gymraeg i blant Cymru, mae Mudiad Meithrin yn hynod falch o gyhoeddi y bydd adnodd newydd Dewin a’r Mabinogi yn cael ei lansio am 3.30 bnawn Mawrth, 8fed o Awst ar stondin y Mudiad ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mhresenoldeb yr awdur Anni Llŷn.

 

Meddai Anni Llŷn:

Pedair Cainc y Mabinogi ydi’n straeon hynaf ni yma yng Nghymru. Mae pedair chwedl yn rhan o’r ‘Pedair Cainc’ ac mae’n nhw’n straeon hir a chymhleth, felly dim ond rhannau bychan iawn sy’n cael eu hadrodd yn yr adnodd Dewin a’r Mabinogi. Tydyn nhw ddim yn straeon plant fel y cyfryw! Felly mi wnes i addasu rhannau bach o’r chwedlau i’w cyflwyno i blant bach. Ond mae nhw’n rhan fawr o’n gwreiddiau ni fel cenedl, yn rhan fawr o sut yr ydan ni yng Nghymru yn hoff o ddefnyddio “stori” i wneud synnwyr o’r byd a’i bethau. Yn union fel plant bach.”

 

Bu modd creu’r adnodd yma trwy grant a ddyfarnwyd i’r Mudiad i greu adnoddau addysgol cyfrwng Cymraeg gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adnodd Dewin a’r Mabinogi yn un o’r gyfres o adnoddau sydd wedi eu creu ac wedi eu hanelu’n bennaf at leoliadau Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd sy’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar a’r Cynnig Gofal Plant i blant rhwng 3 a 5 oed.

Mae’r adnodd yn cynnwys rhannau o straeon o Bedair Cainc y Mabinogi sef chwedl Pwyll a Rhiannon, chwedl Branwen, chwedl Manawydan a chwedl Blodeuwedd, ynghyd â Chyflwyniad i Oedolion.  Mae’r adnodd ar gael mewn 2 fformat ar adran adnoddau gwefan y Mudiad Adnoddau Dysgu a Datblygu – Mudiad Meithrin – gellir dewis un ai i lawrlwytho’r straeon unigol fel Pwynt Pŵer gyda gweithgareddau i gyd-fynd â phob chwedl, neu mae modd gwylio fideo o animeiddiad syml o’r stori gyda throslais.

 

Meddai Eleri Llewelyn Owen, Rheolwr Prosiect y Gymraeg, Consortia Addysg Cymru:

“Mae’n braf gweld cyfleoedd newydd a dulliau digidol newydd i ledaenu straeon pwysig y Mabinogi ar gyfer cenhedlaeth newydd o Gymry. Mae’r Consortia Addysg yn draws ranbarthol hefyd wedi adnabod yr angen ac wedi elwa o brofiad y Mudiad wrth gychwyn datblygu adnoddau cyffelyb i hyrwyddo’r Mabinogi a datblygu hyfrededd Cymraeg ein disgyblion o fewn yr ysgolion cyfrwng Saesneg. Hoffem ddymuno pob lwc i’r prosiect.”

 

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae Mudiad Meithrin wedi bod ar flaen y gad yn cynhyrchu adnoddau amrywiol ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ers ei sefydlu yn 1971. Ar bob cam o’r daith a gyda phob datblygiad perthnasol aed ati i arwain y sector gyda chyhoeddi adnoddau addas a phwrpasol trwy gyd-gynhyrchu gyda’r sector ei hun. Mae’r cyllid yma wedi ein galluogi i greu pecyn o adnoddau amrywiol newydd i Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd a chan eu bod ar gael yn agored i bawb ar wefan y Mudiad maent hefyd fod o fudd i ysgolion.”

 

Ychwanegodd Anni Llŷn:

“Mae angen i ni fagu balchder ac ymwybyddiaeth o’r chwedlau yma er mwyn annog y rhai bychan i archwilio mwy o’n gorffennol a’n hanes pan fyddan nhw’n hŷn. Yn sicr, mae digon yma i ddal dychymyg!”

 

Mae croeso i bawb alw draw i’r lansiad am 3.30 bnawn Mawrth, 8fed Awst ar stondin Mudiad Meithrin ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.