Fel Mudiad sy’n angerddol am roi’r Gymraeg i blant Cymru mae Mudiad Meithrin yn falch iawn o’ch gwahodd i lansiad swyddogol Sianel Dewin a Doti am 11.30, fore Mawrth 28ain Mai ar stondin y Mudiad ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni.

 

Mae Dewin a Doti eisoes yn cael eu hadnabod fel cymeriadau hoffus Mudiad Meithrin a byddant yn rhan greiddiol o gynnwys Sianel Dewin a Doti (https://www.youtube.com/@dewinadoti). Daeth y sianel i fodolaeth ar YouTube ddechrau Mawrth eleni gan greu bwrlwm a chyffro wrth i blant o Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd gael cyfle i serennu ar fideos sy’n rhan o’r sianel newydd hon.

 

Gwnaethpwyd y prosiect yma’n bosib trwy grant o i £497,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sydd wedi galluogi’r Mudiad benodi 3 aelod o staff fydd yn gyfrifol am gynllunio, hyrwyddo a chreu llyfrgell o tua 120 o fideos wedi’u hanelu at blant bach a’u teuluoedd dros gyfnod o dair blynedd.

 

Mae’r tîm o dri aelod o staff sydd wedi cychwyn yn eu swyddi ers mis Ionawr eleni yn cynnwys:

  • Fflur Dafydd (Arweinydd Prosiect Digidol),
  • Rhodri Williams (Uwch Swyddog Ffilmio a Golygu)
  • Gwenno Haf Jones (Swyddog Marchnata Digidol).

 

Meddai Fflur Dafydd, Arweinydd y Prosiect:

“Dwi’n falch iawn i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn. Mae cymaint o gefnogaeth a chynnwrf o fewn y Mudiad am y prosiect mae’n fraint cael bod yn rhan ohono. Ers inni gychwyn ry’n ni wedi bod yn gweithio â chymunedau lleol y Mudiad ledled Cymru i gynhyrchu cynnwys fydd yn dathlu ein diwylliant a’n hiaith gan ddod â’r Gymraeg i gartrefi plant bach a’u teuluoedd.”

 

Ers i’r Sianel ddod yn fyw ar YouTube mae 14 fideo wedi eu llwyfannu ar y sianel a thros 60,000 o ‘views’ i’r cynnwys.

 

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae’n wych gweld y cynnwrf mae’r sianel wedi ei greu ar lawr gwlad gyda nifer o Gylchoedd Meithrin ac ysgolion cynradd yn nodi ei fod yn adnodd gwerthfawr iawn i ddod â’r Gymraeg yn fyw i deuluoedd. Ers i’r tîm gael ei sefydlu maen nhw wedi ffilmio mewn dwy feithrinfa ddydd, 5 Cylch Meithrin ac wedi creu cyfres o fideos efo ffrind newydd Dewin sef Cochyn masgot tîm rygbi’r Scarlets!’

Dywedodd Rob Roffe, Pennaeth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin:
“Llongyfarchiadau i Mudiad Meithrin ar lansio Sianel Dewin a Doti. Mae’n braf iawn gweld y gwaith creadigol rydych chi’n ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg i blant ifanc a’u teuluoedd gyda’r fideos newydd hyn. Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw’r ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU sy’n dosbarthu mwy na £30 miliwn yr wythnos. Mae grantiau yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.”