Yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad a’r Gymraeg, mae Mudiad Meithrin yn ail-ddatgan ei gred y dylai’r system Gofal Plant ac addysg alluogi pob plentyn i dyfu’n siaradwr Cymraeg hyderus.

 

Meddai Dr Catrin Edwards, Cadeirydd newydd Mudiad Meithrin:

Mae gwaith Mudiad Meithrin dros bum degawd a mwy wedi canolbwyntio ar greu ac ehangu cyfleon i blant allu chwarae, derbyn gofal a dysgu yn Gymraeg. Serch hynny, lleiafrif o blant Cymru sy’n gallu manteisio ar y cyfleon rheiny am nifer o resymau. 

Rhaid gweithio’n galetach – trwy gynllunio gweithlu, weithio mewn partneriaeth, buddsoddi, creu polisi, hybu a deddfu – i alluogi pob plentyn i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus a gwireddu’r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle arbennig i osod y nod gyda chyhoeddi Papur Gwyn ar Ddeddf Addysg Gymraeg yn y flwyddyn newydd a gweithio’n bendant ond yn raddol i sicrhau’r trawsnewid sydd ei angen“.