Fel mudiad sy’n credu y dylai bob plentyn gael cyfle i chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg, ry’n ni’n falch o weld ein cynllun Clwb Cwtsh, prosiect ar y cyd rhwng Mudiad Meithrin â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae’r cynllun rhad ac am ddim sy’n defnyddio gemau a chaneuon i gyflwyno’r Gymraeg i rieni plant ifanc, yn cynnig cyfres arall o sesiynau sy’n dechrau o fis Mai ymlaen.
Mae Vikki Phillips yn rhiant a fynychodd sesiynau Clwb Cwtsh yn Sir Benfro. Roedd Vikki yn ei gweld hi’n bwysig bod ei mab William, yn cael ei fagu’n ddwyieithog ac mae sesiynau Clwb Cwtsh wedi rhoi hwb iddi i wneud hynny. Teimlai fod ganddi’r hyder i siarad Cymraeg gartref bob dydd ar ôl mynychu’r sesiynau.
Meddai Vikki:
“Roedd Clwb Cwtsh yn help mawr i mi ddefnyddio mwy o Gymraeg o gwmpas ein cartref a gyda William. Ry’n ni eisiau iddo dyfu lan yn siarad Cymraeg a dyma oedd y ffordd berffaith i roi cychwyn arni. Mae William wrth ei fodd â chaneuon a straeon ac mae Clwb Cwtsh wedi rhoi’r hyder i mi ddarllen a chanu gydag ef.”
Ers Medi 2022, mae 1533 o oedolion wedi cofrestru ar gyfer y sesiynau. Rydym hefyd wedi darparu Clwb Cwtsh mewn 84 o leoliadau yn ogystal â darparu sesiynau rhithiol. Mae’r sesiynau wedi eu creu gan Nia Parry sy’n gyflwynydd adnabyddus ar S4C, ac maent wedi’u hanelu at siaradwyr Cymraeg newydd sy’n canolbwyntio ar iaith magu plant yn y cartref.
Meddai Dr Gwenllïan Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Ers dechrau gweithredu’r cynllun Clwb Cwtsh i gynnig cefnogaeth i deuluoedd i ddechrau ar eu taith dysgu Cymraeg, rydym wedi derbyn ymateb da ledled Cymru. Mae’r ffaith ein bod yn gallu cynnig i blant ddod gyda’u teuluoedd wedi cael ei groesawu. Mae’r sesiynau yn mynd o nerth i nerth a thrwy gynnig sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein, mae modd i unrhyw un yn unrhyw le ymuno.”
Mae’r cyrsiau wyth wythnos o hyd ar gyfer rhieni, gwarchodwyr a darpar rieni, ac mae croeso iddynt ddod â’u plant gyda nhw. Ar ddiwedd y cyfnod, mae’r dysgwyr yn cael eu hannog i ddilyn cyrsiau pellach fel rhan o’r cynllun, gan gynnwys Clwb Cwtsh 2, sef adnodd digidol hunan-astudio sy’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr barhau i ymarfer ac adeiladu ar yr hyn maent wedi dysgu yn ystod y sesiynau blaenorol â Chlwb Cwtsh.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Croesawu pobl o bob cefndir i fwynhau dysgu a siarad Cymraeg yw nod y Ganolfan Genedlaethol, a ’dyn ni’n cynnig pob math o gynlluniau a chyrsiau.
“Dyn ni’n falch iawn o gydweithio gyda Mudiad Meithrin i gynnal Clwb Cwtsh, sy’n rhoi cyfle i rieni a gofalwyr plant bach i ddechrau ar eu siwrnai iaith mewn awyrgylch anffurfiol a hwyliog.”
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Clwb Cwtsh: Clwb Cwtsh – Learn Welsh for free with Mudiad Meithrin