Mae Mudiad Meithrin yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnal Ti a Fi Mwyaf y Byd yn ystod Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025 – dathliad arbennig i blant ifanc a’u teuluoedd o fewn a thu hwnt i gymuned y Mudiad.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal am 11yb ar ddydd Sadwrn, 31ain o Fai, yn yr Adlen ar Faes Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr. Mae croeso cynnes i bawb sydd yn rhan o’r gymuned Mudiad Meithrin neu a fu’n rhan ohoni yn y gorffennol i ddod draw i fwynhau’r hwyl.

Dywedodd Heather Davies-Rollinson, Rheolwr Talaith y De-orllewin a’r Canolbarth Mudiad Meithrin:

“Mae hwn yn ddigwyddiad cyffrous i Mudiad Meithrin eleni. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu plant a’u teuluoedd i sesiwn Ti a Fi Mwyaf y Byd ar faes yr Eisteddfod, ble fydd pob math o weithgareddau, stori a chanu ac wrth gwrs cyfle i gwrdd â chael llun gyda Dewin!”

Siani Sionc fydd yn agor y digwyddiad gyda pherfformiad bywiog o ganeuon hwyliog ac adnabyddus. Yna, bydd Llio Maddocks, Trefnydd Celfyddydol yr Urdd, yn eich swyno trwy ddarllen stori Dewin a Doti. Hefyd, bydd staff Mudiad Meithrin lleol yn canu nifer o ganeuon gyda Dewin ar ddiwedd y sesiwn.

Yn ogystal, bydd gweithgareddau amrywiol i blant gan gynnwys:

  • Crefftau creadigol
  • Gemau parasiwt
  • Amser snac i’r plant bach

Ychwanegodd Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:

“Dyma gyfle gwych i blant ifanc a’u teuluoedd ddod at ei gilydd i  fwynhau chwarae a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig. Does dim rhaid i chi siarad Cymraeg eich hun i ymuno a ni, mae Cylch Ti a Fi mwyaf y byd yn croesawu pob teulu ac yn gyfle i ddathlu plant bach Cymru a’u hawl i ddysgu a siarad Cymraeg.”

Mae hwn yn gyfle arbennig i deuluoedd ddod at ei gilydd i ddathlu’r Gymraeg drwy hwyl, cerddoriaeth a gweithgareddau addas i blant ifanc – Dewch i ymuno â ni!