Trysorydd Cylch Meithrin yn Ymuno gyda Phwyllgor Cenedlaethol Mudiad Meithrin
Mae Aron John – cyfrifydd, tad i ddau, trysorydd gwirfoddol mewn Cylch Meithrin o Wynedd a chyd-drysorydd gŵyl ‘Sesiwn Fawr’ Dolgellau – wedi’i gyf-ethol fel aelod newydd i Bwyllgor Archwilio, Adnoddau a Risg Mudiad Meithrin.
Pwrpas y pwyllgor yw darparu sicrwydd annibynnol i Fwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin ar effeithiolrwydd rheolaeth fewnol, llywodraethu corfforaethol a rheoli risg, gan fonitro a chynghori ar faterion ariannol ac adnoddau.
Bydd Aron yn ymuno gyda phwyllgor o 6 gwirfoddolwr arall sy’n craffu ar weithgareddau’r Mudiad o safbwynt cyllid ac yn defnyddio’i brofiad fel aelod pwyllgor rheoli gwirfoddol Cylch Meithrin i lywio’i gyfraniad.
Wrth ei groesawu i’r pwyllgor, meddai trysorydd gwirfoddol y Mudiad Gwenno George:
“Fel mudiad sy’n dibynnu ar gymuned eang o 1200 o wirfoddolwyr ar bwyllgorau rheoli Cylchoedd Meithrin, rydym yn falch iawn o groesawu Aron atom gan y gwyddom y bydd ganddo lawer i’w gynnig yn sgil ei brofiadau amrywiol fel trysorydd gwirfoddol i sawl achos pwysig. ”
Meddai Aron John:
“Mae gwaith Mudiad Meithrin yn bwysig i mi a dwi’n awyddus i geisio helpu y Mudiad gorau y gallaf, ac yn sgil hynny helpu’r Cylchoedd, staff, y teuluoedd a’r plant”.
Bydd Aron yn gwirfoddoli fel aelod o’r pwyllgor am gyfnod cychwynnol o bum mlynedd (gyda phosibilrwydd o ail dymor).
Bydd Mudiad Meithrin yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â Bwrdd Cyfarwyddwyr y Mudiad yn fuan gan gynnwys cyfarwyddwyr dan 30 oed ac unigolion profiadol ym myd blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae.