Mae Mudiad Meithrin yn falch o gyhoeddi Wythnos Dathlu Dewin a Doti, a gynhelir rhwng 24 a 29 Mawrth ledled Cymru eleni. Bydd yr wythnos yn gyfle i ddathlu Dewin a Doti sef cymeriadau hoffus y Mudiad, (a ysbrydolwyd yn wreiddiol gan gymeriad tebyg yng Ngwlad y Basg), a’u pwrpas yw annog defnydd o’r Gymraeg mewn dull chwareus a hwyliog oherwydd eu poblogrwydd ymysg plant sy’n mynd i’r Cylchoedd Meithrin.
Fel rhan o’r dathliadau yn ystod Wythnos Dathlu Dewin a Doti, rydym annog ein grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd i gymryd rhan mewn tri gweithgaredd penodol, sef:
- Ras Baent Piws – cynnal ras gan ddefnyddio paent powdr piws/porffor er mwyn codi arian i’r cylch neu feithrinfa.
- Parti Piws/Porffor – dathlu Dewin a Doti trwy gynnal parti piws/porffor yn eu lleoliad.
- Cystadleuaeth Creu Trenyrs/Daps i Dewin – creu trenyrs arbennig i Dewin er mwyn iddo allu cymryd rhan yn y ras! Mae gwobr £200 i’r lleoliad buddugol, yn ogystal ag ymweliad gan Dewin a chriw ffilmio tîm Sianel YouTube Dewin a Doti. Mae cartŵn o Dewin a Doti yn apelio ar blant yn ein darpariaethau i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn fyw ar ein cyfrif Facebook: https://fb.watch/xRCPMpNp_1/.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin,
“Rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddathlu Dewin a Doti ddiwedd Mawrth eleni. Mae llu o nwyddau ar gael i gael hwyl gyda’n cymeriadau hoffus bellach. Bydd yr wythnos hon yn gyfle i atgoffa’n haelodau o’r holl adnoddau sydd ar gael iddynt i ddod â Dewin a Doti, ac felly’r Gymraeg yn fyw ym mywydau’r plant yn eu gofal. Mae cynnal Ras Baent Piws fel rhan o’r dathliadau hefyd yn gyfle i’r cylchoedd a meithrinfeydd godi arian i’w lleoliadau mewn ffordd hwyliog gan ddod â’r gymuned leol ynghyd i gefnogi’r cylch lleol.”
Mae pecyn adnoddau a phoster i hyrwyddo’r Ras Baent Piws wedi eu postio i’n haelodau ac mae rhagor o adnoddau a gwybodaeth ar gael ar adran arbennig ar ein Gwefan – Dathlu Dewin a Doti – Mudiad Meithrin.
Mae croeso i bawb ymuno yn yr hwyl, a mwynhau Dathlu Dewin a Doti 2025!