Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Mudiad Meithrin wedi dod ynghyd i gydweithio ar adolygiad amgylcheddol o’r ddau sefydliad gyda’r bwriad o lunio cynllun gweithredu er mwyn gostwng eu hôl-troed carbon.

Penodwyd cwmni Green Business Centre i ymgymryd â’r gwaith a bydd yr adolygiad amgylcheddol yn cynnwys: adolygu polisïau a gwiriad iechyd yr amgylchedd; cynllun gweithredu yn seiliedig ar ganlyniadau’r adolygiad; paratoi polisïau a gweithdrefnau amgylcheddol newydd; cyfrif gwerth ôl-troed carbon ar gyfer y ddau fudiad; a darparu hyfforddiant perthnasol ar gyfer y gweithlu.

Yn ôl Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Gwyddom fod gennym rôl arbennig yn dylanwadu ar ddinasyddion y dyfodol ac y bydd cyfleon trwy’r cwricwlwm newydd i drafod pwysigrwydd amddiffyn a hybu cynefinoedd. Mae Mudiad Meithrin yn ymfalchïo yn y ffaith felly y byddwn yn troi’r chwyddwydr arnom ni’n hunain er mwyn gweld pa newidiadau sydd yn ofynnol i wella’n ôl-droed carbon.”

Ac yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Mae’r angen i amddiffyn yr amgylchedd yn fwy pwysig nag erioed ac mae gan bob sefydliad gyfrifoldeb i sicrhau bod eu gweithgareddau’n cael eu cyflawni mewn modd cynaliadwy sy’n sicrhau lles amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol i gynulleidfaoedd presennol a chynulleidfaeodd y dyfodol.

“Mae penodi cwmni sydd ag arbenigedd ym maes yr amgylchedd a chynaliadwyedd i ymgymryd â’r gwaith hwn yn ein galluogi ni i ddeall mwy am gyfraniad ein sefydliadau at gynhesu byd eang a rhoi cynllun gweithredu mewn lle i leihau impact ein sefydliad ar hyn.”