Yr “Effaith Elsa”: Deall effaith tangynrychiolaeth a phwysigrwydd addysg blynyddoedd cynnar gan Jessica Dunrod
Nid yw’n gyfrinach bod diffyg cynrychiolaeth dybryd mewn llenyddiaeth Gymraeg[1], ond a ydyn ni’n gwybod pa effaith y mae hyn yn ei gael ar ein plant? Rydym yn deall i ba raddau y tangynrychiolir awduron a chymeriadau Du, Asiaidd a rhai nad ydynt yn wyn mewn llenyddiaeth Brydeinig i blant, diolch i adroddiadau megis Reflected Realities a gyhoeddwyd gan y Ganolfan dros Lythrennedd mewn Addysg Gynradd (Centre for Literacy in Primary Education (CLPE)). Canfu mai dim ond 5% o lyfrau a gyhoeddwyd yn ystod 2019 sy’n cynnwys cymeriad Du, Asiaidd neu gymeriad arall a dangynrychiolir. Dengys y ffigyrau brawychus hyn fy mod i’n bersonol wyth gwaith yn fwy tebygol o weld anifail yn brif gymeriad mewn llyfr na chymeriad sy’n edrych fel fi neu fy nheulu. Sut mae hynny yn effeithio hunan-hyder plentyn? A ydyn ni wir yn deall sut mae tangynrychiolaeth yn effeithio ar ein plant?
Yn fy nhraethawd hir ar gyfer fy ngradd Meistr, wnes i fathu’r term “Effaith Elsa” fel term newydd i grynhoi hunan-gasineb mewnol a’r dyhead i ddileu’r hun. Ysbrydolwyd hyn gan ganlyniadau’r ‘Arbrawf Doliau’ (Brown University Vs Board of Education 1940)[2]. Yn yr arbrawf gofynnwyd i blant o ystod o gefndiroedd amrywiol eistedd o flaen rhes o ddoliau â lliwiau croen gwahanol, ac ateb cyfres o gwestiynau trwy ddewis y ddol a oedd yn gweddu orau i’w hateb.
Yn anffodus, dangosodd yr arbrawf fod yr holl blant, gan gynnwys plant Du, wedi dewis y ddol wen wrth ateb cwestiynau cadarnhaol fel ‘pa ddol yw’r un ddel neu glyfar’, a dewis y ddol Ddu i adnabod nodweddion llai cadarnhaol. Profodd yr arbrawf hwn fod hiliaeth a chredoau hiliol a niweidiol yn ymddygiadau sy’n cael eu dysgu gan blant mor ifanc â thair neu bedair oed. Mae hefyd yn amlygu’r cyfrifoldeb sydd ar leoliadau blynyddoedd cynnar i herio’r ymddygiadau hyn.
Gwyddom eisoes yr effeithiau niweidiol y gall hiliaeth a rhywiaeth eu cael ar ein cymdeithas, a dadleuaf fod cynrychiolaeth mewn llenyddiaeth plant ac mewn animeiddio yn ffactor sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at y broblem, ac felly, gall hefyd chwarae rhan bwysig i atal y broblem honno. Yn y pen draw, mae sut rydym yn cynnwys ac yn portreadu cymeriadau Du, benywaidd, anneuaidd, neu anabl, o bwys mawr. Ym amlwg, fel y dadleuais gynt gyda’r “Effaith Elsa” , mae tangynrychiolaeth yn effeithio ar blant i’r fath raddau nes eu bod yn profi ymatebion emosiynol negyddol, yn gweld eu hunain mewn ffordd negyddol, ac yn datblygu cymhlethdod israddoldeb o oedran ifanc iawn.
Mae’r Arbrawf Doliau wedi dangos inni fod plant Du yn dioddef trwy ddysgu ymddygiadau negyddol, sy’n dangos eu bod nhw wedi cael eu dysgu i weld eu nodweddion naturiol yn ‘ddrwg’ neu’n ‘hyll’. Ydyn ni wir yn deall beth mae hynny yn ei wneud i blentyn? Rydw i’n dadlau bod yr “Effaith Elsa” yn ganlyniad uniongyrchol o dangynrychiolaeth mewn llenyddiaeth ac animeiddio, sydd hefyd yn egluro rhai o ganfyddiadau’r Arbrawf Doliau, ynghyd â phrofiadau nifer o bobl Ddu a theuluoedd wedi dioddef hiliaeth a’u tangynrychioli.
Rhyddhawyd y ffilm arobryn Frozen gan Disney yn 2013, a daeth yn llwyddiant ysgubol dros nos, ac er gwaethaf y diffyg cynrychiolaeth ynddi, mae’n parhau i fod yn frand poblogaidd ymhlith plant ifanc hyd heddiw. Gellir gweld nwyddau Frozen, gyda’r prif gymeriad Elsa yn amlwg arnynt, yn y rhan fwyaf o siopau plant o ganlyniad i boblogrwydd y ffilm a’i llwyddiant masnachol rhyngwladol, ac mae Elsa, y prif gymeriad penfelen, hardd a hudolus, yn frand ynddi hi ei hun.
Mae merched ifanc sy’n hoff iawn o’r ffilm yn addoli cymeriadau Frozen i’r fath raddau nes eu bod nhw wedi dechrau datblygu anhoffter o’u nodweddion naturiol eu hunain, fel lliw eu croen, a lliw a gwead eu gwallt. Rwyf wedi dod ar draws nifer o rieni Du, neu rieni plant Du neu Tseiniaidd, sy’n chwilio am gyngor ar sut i helpu eu plant gan nad ydynt yn hoffi lliw eu croen, eu gwallt neu nodweddion naturiol eraill, neu dydyn nhw “ddim am fod yn Ddu” am eu bod nhw ”eisiau edrych fel Elsa”. Mae’r straeon mwyaf brawychus yn ymwneud â phlant yn sgwrio eu croen nes ei fod yn goch ac yn ddolurus, gan fod y plentyn am “sgwrio” y lliw oddi ar y croen. Mae’r boen fewnol hon y mae plant yn ei brofi yn ganlyniad uniongyrchol o dtangynrychiolaeth; sy’n cael ei achosi gan addoliad plentyn o lyfr neu gartŵn nad yw’n ei gynnwys na’i gynrychioli.
Nid wyf yn awgrymu mai peth diweddar yw’r “Effaith Elsa” . Wnes innau brofi’r “Effaith Elsa” yn bersonol gan nad oeddwn yn cael fy nghynryrchioli mewn llyfrau na ffilmiau, bron i 3 ddegawd yn ôl Mae ffilm The Little Mermaid gan Walt Disney yn enghraifft dda o hyn. Wnes i ryfeddu ar y tywysogesau yn y straeon tylwyth teg, ond ni welais adlewyrchiad ohonof i’n hun yn y llyfrau na’r cymeriadau ro’n i’n eu caru. Mae’n ymddangos mai ychydig iawn sydd wedi newid ers hynny.
Dewisais enwi’r cysyniad hwn ar ôl y ffilm fwyaf llwyddiannus ac eiconig i ddod i’r amlwg yn y blynyddoedd diwethaf, gan fod yr animeiddiad neu’t testun hwnnw wedi ei gyfeirio’n gyson ato gan rieni sydd â chwynion am faterion hunaniaeth eu plentyn. Rydw i wedi bathu’r term i destunoli Yr Arbrawf Doliau mewn iaith gyfoes, ac i fynd i’r afael â phroblem sy’n ymddangos yn gyffredin sy’n cael ei brofi gan ein plant ifanc. Awgryma’r “Effaith Elsa” hefyd yn awgrymu bod angen i ni weld llawer mwy o gynrychiolaeth mewn llenyddiaeth plant, fely gall plant weld eu hunain a’u straeon yn cael eu hadlewychu yn y ffordd rydyn ni’n ddehongli a dychmygu’r byd heddiw.
[1] Seilir hyn ar ragdybiaeth am na wyddwn am unrhyw astudiaeth empiraidd i hyn
[2] Brown v. Board: The Significance of the “Doll Test” (naacpldf.org)