Hwrê! Mae Tîm Cymru yn chwarae pêl-droed yng Nghwpan y Byd!

Beth am gynnal gweithgareddau yn eich Grŵp Cymraeg i Blant, Clwb Cwtsh, Cylch Ti a Fi, Cylch Meithrin, Meithrinfa Ddydd, Clwb ar ôl ysgol i ddathlu!

 

Isod gweler adnoddau newydd i gyd-fynd a’r themau ac i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd!

Llyfryn Gweithgareddau

Lawrlwytho

Llyfr Dewin a Doti’n Helpu yn y Gêm Fawr

Lawrlwytho

Poster Pob Lwc Cymru

Lawrlwytho

Adnodd Ffarsi

 

Lawrlwytho

Cân Pob Lwc Cymru gyda Siani Sionc

Ymunwch yn y canu a dawnsio gyda Siani Sion, Dewin a phlant bach Ysgol Gynradd Bro Ogwr.

Stori ‘Dewin a Doti yn y Gêm fawr’ gyda Siani Sionc

Dewch i wrando ar Siani Sionc yn darllen stori o dan y thema pêl-droed. Tybed a fydd Dewin yn gallu achub y diwrnod?

Adnoddau pellach

 

I gael mynediad at lu o Adnoddau Dysgu Cymraeg eraill ar y thema ‘Pêl-droed’ ewch i Pel-droed | Dysgu Cymraeg.

 

Neu

 

Mae gan Y Mentrau Iaith adnoddau defnyddiol hefyd:

 

Dyma’r ddolen i’r llyfryn ‘Mae’n Wlad i Mi – Gorau Canu Cyd Ganu’  sy’n cynnwys 10 cân boblogaidd (gan gynnwys ‘Yma o Hyd’, ‘Hen Wlad fy Nhadau’, ‘Calon Lân’, ‘Dan ni’n mynd i Catar’) ynghyd â chordiau gitâr ichi eu canu wrth gefnogi Tîm Cymru yng Nghwpan y Byd!

Gorau Canu Cyd Ganu – Canu Cymunedol | Y Mentrau Iaith

 

Dyma’r ddolen i daflen am hanes y gân “Yma o Hyd”

Hanes y gân “Yma o Hyd” | Y Mentrau Iaith

 

A dyma adnoddau eraill o ddiddordeb ar sianel YouTube y Mentrau Iaith:

Cân : Yma o Hyd – CânSing

Hanes Cymru Cymraeg ISDEITLAU – YouTube