Cyflwyniad i Gynllunio Ymatebol (2)
Cyflwyniad i Gynllunio Ymatebol
Gyda Vanessa Powell a Kayleigh Bickford, Adran Dysgu Sylfaen Mudiad Meithrin
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd
Cyflwyniad i gynllunio ymatebol sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas-gynhelir a ariennir. Bydd y sesiynau hyn yn cyflwyno’r egwyddor o ddilyn diddordebau plant a sut i gynllunio yn effeithiol ac yn hyderus.
Yn ystod y sesiynau wnei di ddysgu sut i:
- Ddechrau cynllunio’n effeithiol
- Ddefnyddio’r ddogfen cwricwlwm yn ei chyfanrwydd i gefnogi cynllunio.
- Ddefnyddio’r cylch cynllunio’n effeithiol.
Erbyn diwedd y sesiynau wnei di ddeall sut i:
- Gynllunio yn unol ag anghenion pob plentyn unigol.
- Ddatblygu hyder yn y broses cynllunio.
- Gynllunio yn ôl y 3 elfen sy’n galluogi dysgu mewn ffordd ymatebol.
*Bydd angen i bawb sy’n cofrestru fod ar gael i fynychu’r ddau sesiwn ar y dyddiau canlynol:
11 Hydref a 15 Tachwedd 6.30-8pm
Cyfrwng iaith y sesiynau: Cymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd
*SESIYNAU BELLACH YN LLAWN*
Os hoffech i ni ychwanegu eich enw i’n rhestr aros, cliciwch yma.
Cyflwyniad i Gynllunio Ymatebol (2)
- Dyddiad Cau: 2023-10-11
- Amser: 18:30 - 20:00
- Lleoliad: Ar-lein