28
Med

Cyflwyniad sylfaenol i Ymarfer Myfyriol

0 tocynnau ar ôl Am ddim

Cyflwyniad sylfaenol i Ymarfer Myfyriol

Gyda Kym Scott, Ymgynghorydd Plentyndod Cynnar

Yn addas i: Staff y Cylchoedd Meithrin a’r Meithrinfeydd Dydd 

Yn ystod y sesiynau hyn, bydd Kym Scott yn cyflwyno’r syniad o ymarfer myfyriol. Bydd hi’n trafod sut gall ymarfer myfyriol gynorthwyo ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o’u harferion gwaith eu hunain. Bydd hyn yn gymorth i ymarferwyr ddatblygu’r sgiliau a dulliau sy’n angenrheidiol i sicrhau datblygiad, dysg a chynnydd gan y plant sydd dan eu gofal.

Yn ystod y sesiynau wnei di:

  • Edrych ar y gwahanol fathau o ymarfer myfyriol
  • Ddysgu sut i fyfyrio fel tîm ac fel unigolyn
  • Ddysgu sut i gynnwys plant yn rhan o’r broses myfyrio.

Erbyn diwedd y sesiynau wnei di ddeall sut i:

  • Ddatblygu ymarfer myfyriol a chofnodi’r hyn sy’n berthnasol
  • Ddatblygu sgiliau arsylwi
  • Ddefnyddio ymarfer myfyriol i oleuo ymarfer a darpariaeth y dyfodol.

*Bydd angen i bawb sy’n cofrestru fod ar gael i fynychu’r 3 sesiwn ar y dyddiau isod:

28 Medi, 19 Hydref a 30 Tachwedd   6.30-8pm

Cyfrwng iaith y sesiynau: Saesneg.

*SESIYNAU BELLACH YN LLAWN*

Os hoffech i ni ychwanegu eich enw i’n rhestr aros, cliciwch yma.


Cyflwyniad sylfaenol i Ymarfer Myfyriol

  • Dyddiad Cau: 2023-09-28
  • Amser: 18:30 - 20:00
  • Lleoliad: Ar-lein