Hyfforddiant Diogelu Canolradd – Diogelu Plant Caerfyrddin
Ar gyfer aelodau Mudiad Meithrin sy’n –
- Gynorthwywyr meithrin dan hyfforddiant
- Cynorthwywyr meithrin
- Arweinyddion ystafelloedd meithrin
- Rheolwyr cynorthwyol
- Gweithwyr chwarae
- Gyrwyr
- Gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth)
Mae’r cwrs hwn yn cyd-fynd â gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer unigolion Grŵp B.
Cwrs lefel canolradd yw hwn ar gyfer unigolion sydd eisoes â pheth gwybodaeth ynglŷn â’r maes diogelu plant ond sydd angen datblygu dealltwriaeth bellach o’r camau y dylid eu cymryd pan fo pryderon yn codi ynglŷn a lles plant.
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn:
- Deall eich rôl i ddiogelu plant rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- Deall sut y caiff plant eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- Adnabod mathau gwahanol o gamdriniaeth, niwed ac esgeulustod yn cynnwys trais yn y cartref
- Dysgu am ddeddfwriaeth a gweithdrefnau ar gyfer diogelu lles plant a phobl ifanc a gwybod beth ydi’r newidiadau diweddar i ddiogelu yn sgil y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deall effaith hir dymor camdriniaeth ar blant
- Ystyried y gwersi a ddysgwyd o achosion bywyd go iawn, lle mae cam-drin wedi digwydd mewn lleoliadau gofal plant.
Cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd.
*Cyn dilyn y cwrs hwn, argymhellir eich bod yn dilyn modiwl E-Ddysgu Diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru (awr o hyd) ar-lein: https://gofalcymdeithasol.cymru/modiwlau-dysgu/grwp-a-diogelu
Bydd tâl o £30 am fynychu’r hyfforddiant. Pris yn cynnwys cinio. Ni roddir ad-daliadau am fethu a mynychu. Bydd tystysgrif electroneg i bawb sy’n cwblhau’r hyfforddiant.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Hyfforddiant Diogelu Canolradd – Diogelu Plant Caerfyrddin
- Dyddiad Cau: 2024-09-09
- Amser: 10:00 - 14:30
- Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ
- Cyfeiriad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ