14
Gor

Sut Gall ‘Creadigrwydd’ Gefnogi Llythrennedd

13 tocynnau ar ôl Am ddim

Sut Gall ‘Creadigrwydd’ Gefnogi Llythrennedd

o dan arweiniad y fenter greadigol Dwylo Bach

Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd

Yn y cwrs hwn, byddwn yn archwilio’r berthynas rhwng creadigrwydd a llythrennedd, gan ddefnyddio gwaith yr artist Cymreig Paul Eastwood fel ein prif ysbrydoliaeth. Mae dull dychmygus Eastwood o adrodd straeon trwy gelf yn cynnig persbectif unigryw ar sut gall creadigrwydd wella dysgu llythrennedd, yn enwedig i blant ifanc.

Byddwn yn trafod:

  • Sut i drawsnewid syniadau artist i greu gwahoddiadau chwarae sy’n rhyngweithiol, cynhwysol, yn synhwyraidd ac yn meithrin llythrennedd
  • Yr offer a’r ysbrydoliaeth sydd eu hangen i integreiddio creadigrwydd yn eu rhaglenni llythrennedd, gan gyfoethogi profiad addysgol dysgwyr ifanc
  • Pa mor berthnasol yw’r dull hwn am fod Estyn yn canolbwyntio ar lythrennedd fel agwedd ganolog ar addysg yng Nghymru.

Bydd cyfle i bawb sy’n mynychu ENNILL BOCS O ADNODDAU CREADIGOL, wedi’i baratoi gan Dwylo Bach, ar gyfer eich lleoliad!

Sesiwn ddwyieithog.


Sut Gall 'Creadigrwydd' Gefnogi Llythrennedd

  • Dyddiad Cau: 2026-07-14
  • Amser: 18:30 - 20:00
  • Lleoliad: Ar-lein