Ymgyrch yr Hydref 2023

Yn ystod wythnos 20 – 24 o Tachwedd, mae Mudiad Meithrin am gynnal ymgyrch codi arian o’r enw ‘Rhywbeth neis, neis i de’ sy’n cyd-fynd gyda’r hwiangerdd boblogaidd ‘Mynd drot, drot ar y gaseg wen’. Diolch i Bara Henllan am noddi’r ymgyrch yma.

Bwriad yr ymgyrch yw gofyn i bawb gynnal te pnawn i rieni/gofalwyr y plant yn y cylchoedd/meithrinfeydd gan godi tâl am y te i godi arian i’r cylch – a mwynhau te pnawn blasus gyda ffrindiau! Yn ogystal â hyn bwriedir gofyn i gymdeithasau lleol i gynnal te pnawn eu hunain gan roi cyfraniad i’r Cylch Meithrin/meithrinfa leol – cyfle i ddiolch i’r cylch/feithrinfa am roi’r cychwyn gorau i’r plant ar eu taith iaith Gymraeg.

Cofrestrwch yma i dderbyn pecyn codi arian ar gyfer eich Cylch chi.