Fel mudiad sy’n angerddol am roi addysg Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru, ry’n ni’n bwriadu cynnal Parêd Pumdeg am 11.30 fore Sul 31 Gorffennaf ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Mudiad Meithrin.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Rydan ni’n falch iawn i gyhoeddi’r newyddion cyffrous fod Dafydd Iwan wedi cytuno i arwain yr orymdaith arbennig hon i ddathlu carreg filltir bwysig yn hanes y Mudiad a thwf addysg Gymraeg ers yr hanner canrif ddiwethaf. Mae gwahoddiad agored i BAWB i ymuno â ni yn yr orymdaith arbennig hon ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron – dewch yn llu!”

Fe gynhaliwyd gorymdaith lwyddiannus iawn blant o Gylchoedd Meithrin sir Ddinbych ar faes Eisteddfod yr Urdd ym mis Mehefin eleni hefyd, ond y tro hwn – yn ogystal â phlant a theuluoedd o Gylchoedd Meithrin Ceredigion – byddwn yn gwahodd PAWB i ymuno â ni sydd un ai’n mynychu Cylch Meithrin yn bresennol yn unrhyw le yng Ngymru neu sydd wedi bod ynghlwm â’r Mudiad yn ystod y 50 mlynedd ddiwethaf.

Meddai Heather Davies-Rollinson, Rheolwr Talaith y De-orllewin:

“Ry’n ni’n amcangyfrif y bydd tua 250 o blant a’u teuluoedd yn gorymdeithio i ddathlu addysg Gymraeg yn yr ardal yn ogystal â dathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r Mudiad. Ry’n ni hefyd yn croesawu unrhyw blentyn a’i deulu fydd ar y maes sy’n mynychu Grŵp Cymraeg i Blant, Cylch Ti, Fi Cylch Meithrin neu feithrinfa ddydd yn unrhyw ardal o Gymru i ymuno gyda ni.”

Bydd yr orymdaith yn gorffen wrth lwyfan y maes lle bydd y diddanwr plant poblogaidd Siani Sionc yn rhoi perfformiad byw gan ganu caneuon poblogaidd i blant bach i ddiddanu’r plant a’u teuluoedd.

Siani Sionc a Dewin