Mae ein sesiynau wedi eu hanelu at rieni a phlant bach dan 2 oed ac yn gyfle i ti gael hwyl trwy’r Gymraeg mewn awyrgylch groesawgar. Mae’r sesiynau hefyd yn gyfle i ti gwrdd â gwneud ffrindiau newydd.
Byddi di a dy fabi yn dod yn gyfarwydd gyda caneuon Cymraeg syml, llyfrau bwrdd Cymraeg a dwyieithog, e-lyfrau, apiau a fideos i ddefnyddio adre gyda dy fabi.
Mae’r grwpiau hefyd yn gallu cynyddu dy hyder os nad wyt wedi siarad Cymraeg ers gadael yr ysgol neu os wyt ti neu dy bartner yn siaradwr newydd.
I gofrestru ar grŵp clicia yma