Mae pob Cylch Meithrin sy’n ymaelodi gyda Mudiad Meithrin yn ymrwymo i rannu ein gweledigaeth fod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i ddysgu, chwarae, tyfu a ffynnu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Drwy ymaelodi gyda ni byddwch yn:
- derbyn cefnogaeth gan ein staff
- cael mynediad i gymorth ariannol drwy ein cronfa grant blynyddol, grant cychwynnol neu grant argyfwng
- cael cyfle i fynychu sesiynau hyfforddiant i ymestyn sgiliau drwy Academi
- derbyn cefnogaeth i ddatblygu sgiliau iaith ymhellach
- derbyn gwybodaeth cyson a chyfredol am newidiadau a digwyddiadau o fewn y Blynyddoedd Cynnar
- gallu Marchnata’r cylch drwy adran ‘chwilio am gylch‘ ar y wefan
- derbyn adnoddau a chyfle i ymgeisio am farc safon Safonau Serennog
- cael cyfle i hysbysebu unrhyw swyddi gwag ar ein gwefan
- cael mynediad i llwyth o ddogfennau ac adnoddau amrywiol sy’n gymorth i redeg Cylch Meithrin ar ein mewnrwyd
- a llawer mwy
Mae rhestr lawn o’r gwasanaethau a’r adnoddau sy’n cael eu cynnwys fel rhan o becyn Aelodaeth y Mudiad i’w gweld yn y Pecyn Cofrestru isod.
Mae disgwyl i bob Cylch Meithrin gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Plant (AGC) a chydymffurfio â Pholisi Iaith Mudiad Meithrin. Os hoffech drafod bod yn aelod gallwch gysylltu â’ch Cydlynydd Cefnogi lleol neu gyda’r brif swyddfa yn Aberystwyth.