Mae’r blynyddoedd cynnar yn chwarae rôl bwysig yn ystod plentyndod yn ogystal â llunio ein dyfodol. Er mwyn sicrhau bod pob plentyn 0 i 5 oed yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi lles a datblygiad plant wrth wraidd chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru.
Fel rhan o’r dull chwarae plentyndod cynnar, dysgu a gofal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r tri adnodd canlynol.
- Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru
- Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol
- Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Llwybrau Datblygu 0 i 3
Mae’r adnoddau yma wedi cael eu datblygu drwy gyd-awduro gan ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr. Mynegir o safbwynt ymarferwyr, gan dynnu ar arbenigedd ar draws y sector chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar 0 i 5 oed.
Bydd yr adnoddau hyn yn cefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau gofal plant a chwarae ac ysgolion i ddarparu chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar safonol. Byddant ar ffurf drafft am flwyddyn i alluogi ymgysylltu, ac adborth ar eu gweithredu’n ymarferol, a meysydd a nodwyd i’w diwygio ymhellach gan gynnwys unrhyw ddeunyddiau ategol ychwanegol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, adborth neu sylwadau, mae croeso ichi anfon e-bost at y blwch TrafodGofalPlant.