Mae’r Trefniadau asesu hyn i’w ddefnyddio ar y cyd á’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Ar gyfer pwy maen nhw?:-

  • arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir sydd wedi’u hariannu i ddarparu addysg feithrin
  • athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar, neu’r rhai sydd mewn rolau cyfatebol mewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, sy’n cefnogi lleoliadau wrth gynllunio a darparu addysg feithrin
  • sefydliadau eraill sy’n darparu cymorth proffesiynol i leoliadau nas cynhelir
  • arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau gofal plant nad ydyn nhw wedi’u hariannu i ddarparu addysg feithrin ond y mae’n ofynnol iddyn nhw, o dan y ‘safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir’, weithredu’n unol â gofynion statudol y cwricwlwm

Mae’r trefniadau asesu hyn wedi cael eu cyd-greu â phartneriaid allweddol i gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir sydd wedi mabwysiadu’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Mae’r trefniadau’n ystyried anghenion pob dysgwr ac yn cydnabod y bydd eu hunaniaeth, iaith, gallu, cefndir a phrofiad dysgu blaenorol, ynghyd â’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, yn amrywio yn ôl eu hamgylchiadau penodol.

Bydd y trefniadau hyn yn cefnogi lleoliadau i:

  • ddeall cynnydd mewn dysgu plant
  • cymhwyso’r egwyddorion cynnydd yn ymarferol
  • datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar draws y lleoliad
  • defnyddio arsylwadau i lywio’r ddarpariaeth sy’n cefnogi plant i wneud cynnydd
  • gwybod am drefniadau asesiadau cychwynnol a pharhaus a’u gweithredu

Bydd canllawiau dysgu proffesiynol gan Llywodraeth Cymru ar gael yn fuan i’ch cefnogi i roi’r trefniadau hyn ar waith. Darperir dolenni yma pan fyddant ar gael. Yn y cyfamser cysylltwch â’ch athrawes ymgynghorol am gymorth pellach os ydych yn derbyn cyllid i ddarparu addysg. Os nad ydych yn derbyn cyllid cysylltwch â’r Tîm Dysgu Sylfaen:-

Vanessa Powell – Arweinydd Gweithredu’r Cwricwlwm – Dysgu Sylfaen – Cwlwm vanessa.powell@meithrin.cymru

Judith Grigg – Prif Swyddog Dysgu Sylfaen judith.grigg@meithrin.cymru

Kayleigh Bickford  – Swyddog Gweithredu’r Cwricwlwm  kayleigh.bickford@meithrin.cymru

 

Gwybodaeth trefniadau asesu ar hwb yma.