Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw diwygiedig ar gyfer rhieni a gofalwyr pan fydd plant 3 a 4 oed yn treulio eu haddysg feithrin naill ai mewn ysgol neu leoliad gofal plant a ariennir gan yr awdurdod lleol. (Cylchoedd Meithrin neu Meithrinfeydd Dydd sy’n derbyn arian i ddarparu addysg ac sy’n cael eu harolygu gan Estyn.)
Mae hwn yn gam pwysig ym mywydau plant cyn iddynt ddechrau mewn addysg statudol sy’n eu galluogi i ddysgu trwy chwarae dan do ac yn yr awyr agored ac yn gosod y blociau adeiladu ar gyfer eu dysgu yn y dyfodol a’u datblygiad corfforol ac emosiynol.
Mae croeso i chi rannu hyn gyda’ch rhieni ar eich hysbysfyrddau, apiau neu gyfryngau cymdeithasol.
Ysgrifennodd Annalisa Rabotti, addysgwr yn Reggio Emilia: –
‘Mae plant yn tasgu gwreichion o wybodaeth, chwilfrydedd ac ymholiad, ac mae’n rhaid i oedolion fod yn barod i ddal y gwreichion hynny… Fel athro, mae’n rhaid i chi fod yn barod i’w dal nhw, i chwythu arnyn nhw a’u hannog i gynnau ac i dyfu.’
Mae’r dyfyniad hwn yn crynhoi pwysigrwydd rôl yr oedolyn. Mae yna nifer o bethau i’w hystyried wrth ddarparu profiadau i helpu’ch plant ar ddechrau’r daith addysgiadol. Yn gyntaf, rhaid gwybod eich ‘pam?’ – holwch eich hun, beth yw diben darparu’r profiad hwn, a sut fydd y plentyn/plant yn elwa? Bydd hyn yn ei lenwi â phwrpas. Yn ail, a ydych chi’n dilyn diddordeb y plentyn/plant? Mae plant yn dysgu orau pan maen nhw â diddordeb ac yn brysur. Mae defnyddio diddordebau’r plant yn sail i’r profiad yn fodd o sicrhau bod y dysgu o ddiddordeb iddyn nhw, ond hefyd â phwrpas a pherthnasedd.
Mae plant ifanc am ddysgu sut mae pethau’n gweithio, ac maen nhw’n dysgu orau drwy chwarae. Fel rhiant/gofalwr neu aelod o staff Cylch Meithrin/Meithrinfa Dydd, mae chwarae gyda’r plant yn fuddiol i’w datblygiad. Wrth chwarae mae plant yn meddwl, yn dysgu, yn datrys problemau ac yn creu. Efallai eu bod nhw hefyd yn rhedeg, yn dringo, codi, taflu, tynnu, gwthio a datblygu sgiliau motor manwl. Wrth wneud y gweithgareddau hyn mae plant yn datblygu’r sgiliau hunanofal fel gwisgo / tynnu amdanyn nhw, bwyta, defnyddio’r toiled ac felly’n datblygu eu hunaniaeth. (Am ragor o wybodaeth am chwarae a dysgu’n seiliedig ar chwarae, gwelwch Chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae – Mudiad Meithrin
Trwy ddarparu gwahoddiadau i ddysgu/chwarae, rydym yn cyfleu negeseuon synhwyrol i’r plant y dylen nhw ddod yma i chwarae (gwyliwch am ein hesboniad ar wahoddiadau i chwarae/dysgu yn dod yn fuan.) Gallwch wneud hyn gartref neu yn y lleoliad, y tu mewn a’r tu allan. Sut wnawn ni hyn? Fel rhiant/gofalwr y plant neu aelod o staff, gallwn arddangos ystod o ddeunyddiau a darnau rhydd a dewiswyd yn ofalus yn seiliedig ar ddiddordebau’r plant, er mwyn ennyn eu chwilfrydedd a’u sylw. Bydd hynny yn eu denu i fyd o ryfeddodau ac yn datblygu eu dysg ar draws y pum llwybr datblygiadol – cyfathrebu, archwilio, datblygiad corfforol, perthyn a lles.
Creda Mudiad Meithrin yng ngwerth llyfrau a meithrin cariad plant at lyfrau. O oedran ifanc iawn, mae angen i blant gael y profiad o drin llyfrau, gwrando ar straeon, a gweld harddwch y broses darllen ar waith. Y cwbl sydd eu hangen arnoch i wneud hyn ydi detholiad o lyfrau, darnau rhydd a doliau peg/anifeiliaid, ac ati. Gall plant fynd i fyd lle nad oes terfyn ar eu dychymyg. Mae angen i lyfrau bod ar gael ym mhob rhan o’r ddarpariaeth, nid y gornel lyfrau’n unig. Dylid gosod llyfrau dethol o fewn cyrraedd y plant wrth greu gwahoddiadau i chwarae/dysgu. Ystyriwch ddefnyddio silff ffenestr isel, silffoedd, cabinet arddangos a tuff trays i arddangos y llyfrau, darnau rhydd a doliau peg. Man cychwyn yw’r llyfr, a gellir defnyddio’r adnoddau i actio’r stori, gan ddilyn trywydd meddyliau, dychymyg a chreadigrwydd y plant. (Am ragor o wybodaeth, gwelwch hyfforddiant Amser Stori Mudiad Meithrin.)
Dylid cynnig cymaint o gyfleoedd â phosib i blant gael chwarae yn yr awyr agored. Mae chwarae tu allan yn dod â chymaint o fuddion, ac yn fwy nag erioed mae angen i ni gydnabod pwysigrwydd ei effaith ar ddatblygiad yn ystod y blynyddoedd cynnar. Mae bod y tu allan yn cael effaith cadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol plant. Mae problemau iechyd meddwl yn cynyddu ymhlith plant ifanc, felly mae’n bwysig i ni fynd i’r afael â hyn drwy sicrhau ein bod yn gwneud llesiant yn flaenoriaeth yn addysg plant. Mae plant yn dysgu orau pan eu bod yn hapus ac yn rhydd o straen a gorbryder. Mae’r ymarfer corff sy’n digwydd tu allan yn helpu mynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant ifanc. Mae bod y tu allan yn cynnig cyfleoedd i blant ddatblygu eu sgiliau motor bras a manwl. Mae treulio amser wedi eu hamgylchynu gan natur yn rhoi cyfle i blant ddianc rhag disgwyliadau bywyd beunyddiol. Nid yw pob plentyn yn medru cydymffurfio â’r cyfyngiadau sy’n dod o fod y tu mewn, felly mae bod y tu allan yn gyfle iddyn nhw gael gwared â gormodedd o egni, ac felly cael gwared ar ymddygiadau sydd o bosib yn heriol. Beth bynnag rydych yn ei ddarparu i’r plant dan do, mi allwch chi ei ail-greu ar raddfa fwy, fwy swnllyd tu allan!
Am ragor o wybodaeth ar lesiant a dysgu tu allan, cliciwch ar y dolenni isod:
meithrin.cymru/wp-content/uploads/2023/07/Astudiaeth_Achos_Bro_Alun_S.pdf
Baby Steps into the Curriculum – Meithrin
Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel – Outdoor Learning – YouTube
Ysgol Feithrin Pontypwl Case study (meithrin.cymru)
Manteision Chwarae Natur
Os ydych am ddarparu profiadau diddorol, perthnasol yn seiliedig ar ddiddordebau’ch plentyn/plant, ond ddim yn siŵr sut i ddechrau arni, defnyddiwch y canlynol fel canllaw:
- Arsylwch sut maen nhw’n chwarae
- Nodwch hynny ar bapur
- Gwrandewch a siaradwch gyda nhw
- Byddwch yn agored i’w syniadau nhw
- Rhowch ddigon o gyfleoedd iddyn nhw
Wrth wneud hyn byddwch yn darparu profiadau cadarnhaol, go iawn, yn seiliedig ar eu diddordebau. Mae gan rieni, gofalwyr ac ymarferwyr rôl allweddol i’w chwarae yma.
Rydym wedi darparu rhai syniadau ar brofiadau sy’n ennyn diddordeb sydd hefyd yn cyd-fynd â’n hadnodd cynllunio wedi’i seilio ar ein calendr digwyddiadau. Rydym yn dilyn y tymhorau a natur. Gellir defnyddio’r syniadau hynny ar eu pen eu hunain, neu gyda’r adnodd cynllunio.
Ar fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Judith Grigg BEd (Hons) MAEd, Prif Swyddog Dysgu Sylfaen.
Gwneud Mathemateg yn Bwrpasol ac Ystyrlon
Dyma rhan gyntaf o adnodd newydd sy’n archwilio cysyniadau mathemategol ac yn trafod sut i gyflwyno’r cysyniadau hyn i blant bach. Bydd ail ran yr adnodd yn archwilio’r cysyniadau hyn yn fanylach ac yn rhannu arfer da o leoliadau Mudiad Meithrin. Cliciwch ar y poster am fwy o gwybodaeth.
Mae miri mawr blêr yn rhan bwysig o ddatblygiad plant. Mae’n cefnogi plant i roi cynnig ar archwilio ymarferol a phrofiadau synhwyraidd, ac yn datblygu eu creadigrwydd a dychymyg. Mae’r adnodd hwn yn cefnogi rhieni/gofalwyr ac ymarferwyr i ddeall pam mae miri mawr mor bwysig.
Cliciwch isod i weld y carden post ar poster Miri Mawr;
Yn y byd hwn sy’n cael ei yrru gan dechnoleg mae’n hawdd anghofio buddion natur. Mae’r adnodd hwn yn rhoi awgrymiadau ar ba brofiadau y gallwch eu darparu er mwyn dod â byd natur i fywydau eich plentyn/plant; gan ganolbwyntio ar y manteision o wneud felly, a sut i ddarparu profiadau ym myd natur hyd yn oed os ydych wedi’ch lleoli mewn ardal adeiledig.
Cliciwch isod i weld y poster ar Manteision Chwarae Natur.
Mae amser stori yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd plant. Mae’n cefnogi datblygiad iaith, sgiliau llythrennedd a chyfathrebu plant. Mae’r adnodd hwn yn rhoi awgrymiadau gwych ar sut i gynnwys plant ifanc yn rhan o Amser Stori, a sut i’w wneud yn gyffrous ac yn llawn hwyl.
Cliciwch isod i weld y poster ar Amser Stori.