Newyddion Cenedlaethol | 08 Tac 2023

Mae Mudiad Meithrin – fel elusen â hawliau plant yn ganolog i’w chenhadaeth – yn galw am gadoediad. Dyma gopi o’n llythyr at y Prif Weinidog

Annwyl Brif Weinidog,

 

Un o nodau ac amcanion Mudiad Meithrin yw “bod hawliau plant yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant a Deddf Plant 1989 yn holl bwysig. I’r perwyl hwn bydd gan blant yr hawl i ddisgwyl i bob oedolyn sydd â chyfrifoldeb drostynt eu hamddiffyn rhag camdriniaeth o bob math”.

Mae gan y Mudiad draddodiad dyngarol hir ac anrhydeddus yn y cyswllt hwn ac eisoes rydym wedi codi arian i elusen ‘Achub y Plant’ er budd plant Gaza.

Gwyddom fod mwy na 8,000 o Balestiniaid wedi’u lladd, gan gynnwys 3,500 o blant.

Nid yw ysbytai yn gallu darparu gofal hanfodol; mae diffyg mynediad at ddŵr glân, meddyginiaethau, tanwydd a bwyd ac mae miloedd wedi’u hanafu, wedi colli eu cartrefi ac wedi gweld eu teuluoedd yn cael eu lladd.

Galwn felly, yn unol â mudiadau Cymreig amrywiol, UNICEF a’r Cenhedloedd Unedig yn ehangach am gadoediad dyngarol ar fyrder, mynediad i gymorth dyngarol heb gyfyngiadau gan ryddhau pob plentyn sydd yn wystlon.

Cefnogir cadoediad gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, llywodraethau ar draws y byd ac asiantaethau gan gynnwys UNICEF, Achub y Plant, Amnest Rhyngwladol, Oxfam, yn ogystal â 76% o bobl gwledydd Prydain.

Gofynnwn i chi ddefnyddio eich holl ddylanwad ac awdurdod ar ran Llywodraeth Cymru a phobl Cymru i ddwyn perswâd ar eraill i fynnu cadoediad. Bydd cyfle euraidd i wneud hyn ddydd Mercher wrth i chi drafod cynnig NDM8391 ar lawr y Senedd.

 

Yr eiddoch yn gywir,

Dr Catrin Mair Edwards

Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr
Mudiad Meithrin