Mae Mudiad Meithrin yn falch o’i waith yn cyhoeddi llyfrau i blant gan nodi i’r cyhoeddiad cyntaf gael ei ryddhau yn y 1970au. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Mudiad Meithrin wedi mynd i’r afael â’r diffyg amlwg o lyfrau yn y Gymraeg i blant gan awduron sy’n cynrychioli pobl a chymunedau amrywiol Cymru.
Mae’r gwaith hwn wedi cwmpasu sawl cynllun gwahanol: AwDUron, AwDUra (a welodd gyhoeddi llyfrau gwreiddiol, newydd gan Theresa Mgadzah Jones, Chantelle Moore a Mili Williams) a gweithio gydag awduron unigol fel Marva Carty, Natalie Jones, Dr Nuria Gonzales Gomes, a Jessica Dunrod.
Mae’r Mudiad yn falch o ddatgan bydd yn ail gyhoeddi ‘Dy Wallt yw Dy Goron’ gan Jessica Dunrod. Mae ‘Dy Wallt yw Dy Goron’ yn stori atgofus sy’n dathlu treftadaeth, cynefin, bod yn falch o dy hunaniaeth, ac yn cyflwyno’r darllenydd i’r cymeriadau Hope, Dewi y ddraig ac Affrodite. Mae’n dysgu plant ifanc i fod yn falch ohonyn nhw eu hunain ac i ddathlu eu natur unigryw.
Meddai Jessica Dunrod,
“Rwy’n falch iawn bod ‘Dy Wallt yw Dy Goron’ wedi dod o hyd i gartref gyda Mudiad Meithrin a bydd yn cael ei ail gyhoeddi ar Ddiwrnod Annibyniaeth St. Kitts a Nevis, 19eg Medi 2024, sy’n rhoi rhywfaint o gefndir i’r stori.
Mae rhai o lwyddiannau’r ddwy flynedd ddiwethaf y rwyf fwyaf balch ohonyn nhw wedi deillio o weithio mewn partneriaeth â Mudiad Meithrin ar brosiectau amrywiol, gyda’r nod o amrywiaethu llenyddiaeth Gymraeg ac adnoddau addysgol i blant a dysgwyr Cymraeg.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, doedd gen i ddim dewis heblaw am hunan-gyhoeddi’r llyfr a oedd, yn ôl ‘Books for Keeps’, yr unig lyfr lluniau “wedi ei osod yn benodol yng Nghymru i gynnwys cymeriad nad yw’n wyn.”
Mudiad Meithrin oedd y cyntaf i gefnogi fy ngwaith a chytuno bod pob plentyn yn haeddu teimlo’n Gymry a siarad Cymraeg, a mwynhau hud a lledrith darllen.”
Dywedodd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Gwenllian Lansdown Davies:
“Mae Mudiad Meithrin yn credu bod pob plentyn yn haeddu dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Mae’n hanfodol bwysig bod gan blant lawer o lyfrau yn Gymraeg yn eu hysgolion a’u lleoliadau gofal plant. Mae amrywiaethu’r silff lyfrau yn golygu sicrhau llyfrau gan leisiau amrywiol.
Rydym yn falch o gyhoeddi’r ail argraffiad o ‘Dy Wallt Yw Dy Goron’, gan wybod y bydd plant wrth eu bodd â’r hud yn y geiriau a’r delweddau hardd.”
Mae ‘Dy Wallt yw dy Goron’ ar gael i’w brynu drwy Siop Dewin a Doti sef siop ar-lein Mudiad Meithrin – Dy wallt yw dy Goron – Mudiad Meithrin.