Dyma gasgliad o ddogfennau, polisïau a chanllawiau efallai fydd o ddefnydd i chi wrth ymdopi gyda gofynion y cwricwlwm.
Pecyn cymorth i gefnogi lleoliadau :-
- wrth ymgysylltu â rhieni a gofalwyr i rannu gwybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru
- bodloni’r gofyniad i gyhoeddi crynodeb o’u cwricwlwm mabwysiedig.
Fel rhan o Gwricwlwm i Gymru, mae’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn sicrhau profiadau dysgu priodol i’n dysgwyr ieuengaf sy’n derbyn eu darpariaeth addysg mewn lleoliadau gofal plant.
Er mwyn cefnogi lleoliadau i ymgysylltu gyda rhieni a gofalwyr ar Gwricwlwm i Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn cymorth. Bydd y pecyn cymorth yn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall newidiadau’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu newydd a chyffrous eu plant.
Mae’r pecyn cymorth yn darparu amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys poster, templed cylchlythyr a negeseuon allweddol i’w hyrwyddo trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol. Poster. Mae’n gyfnod cyffrou i blant ifanc Cymru! (gov.wales)
Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar y gofyniad i leoliadau gyhoeddi crynodeb o’u cwricwlwm mabwysiedig. (gweler tudalen 15)