Mae’r blynyddoedd cynnar yn chwarae rôl bwysig yn ystod plentyndod yn ogystal â llunio ein dyfodol. Er mwyn sicrhau bod pob plentyn 0 i 5 oed yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi lles a datblygiad plant wrth wraidd chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru.

Fel rhan o’r dull chwarae plentyndod cynnar, dysgu a gofal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r tri adnodd canlynol.

  • Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru

https://hwb.gov.wales/api/storage/2e975971-5a35-443f-a816-72ddf8300360/fframwaith-ansawdd-ar-gyfer-chwarae-dysgu-a-gofal-plentyndod-cynnar-v1.pdf

  • Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol

https://hwb.gov.wales/api/storage/5ed7d953-badb-4193-b712-83db900a76ef/chwarae-dysgu-a-gofal-plentyndod-cynnar-pecyn-cymorth-ymarfer-myfyriol-v1.pdf

  • Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Llwybrau Datblygu 0 i 3

https://hwb.gov.wales/api/storage/634cc7f0-9ab1-499e-8754-649f4b2393b6/chwarae-dysgu-a-gofal-plentyndod-cynnar-llwybrau-datblygu-0-i-3.pdf

 

Mae’r adnoddau yma wedi cael eu datblygu drwy gyd-awduro gan ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr. Mynegir o safbwynt ymarferwyr, gan dynnu ar arbenigedd ar draws y sector chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar 0 i 5 oed.

 

Bydd yr adnoddau hyn yn cefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau gofal plant a chwarae ac ysgolion i ddarparu chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar safonol. Byddant ar ffurf drafft am flwyddyn i alluogi ymgysylltu, ac adborth ar eu gweithredu’n ymarferol, a meysydd a nodwyd i’w diwygio ymhellach gan gynnwys unrhyw ddeunyddiau ategol ychwanegol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, adborth neu sylwadau, mae croeso ichi anfon e-bost at y blwch TrafodGofalPlant.