Mae Mudiad Meithrin yn falch iawn o gyhoeddi canlyniadau cadarnhaol iawn o arolygon Estyn ac AGC a gynhaliwyd rhwng Mai 2024 a Mai 2025 mewn 34 o Gylchoedd Meithrin sy’n aelodau o’r Mudiad.
Mae’r lleoliadau dan sylw wedi’u lleoli ar draws 14 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn, cafwyd cyfanswm o 187 o ddyfarniadau ansawdd ar draws pedwar categori: Gwael, Digonol, Da, a Rhagorol.
Dyma’r canlyniadau:
- Rhagorol: 41/187 = 21.93%
- Da: 137/187 = 73.26%
- Digonol: 9/187 = 4.81%
- Gwael: 0/187 = 0%
Yn ogystal roedd:
- 12 lleoliad (35.29%) wedi derbyn o leiaf un dyfarniad Rhagorol
- 31 lleoliad (91.18%) wedi derbyn o leiaf un dyfarniad Da
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae’r canlyniadau hyn yn dystiolaeth glir o ymroddiad ac ymrwymiad ein lleoliadau i ddarparu profiadau o ansawdd uchel i blant ifanc ledled Cymru. Rydym yn hynod falch o’r ffaith bod dros 95% o’r dyfarniadau wedi’u dosbarthu’n ‘Da’ neu’n ‘Rhagorol’, ac rydym yn llongyfarch pob lleoliad am eu gwaith caled a’u hymroddiad i’r Gymraeg a gofal plant cynnar.”