Lleoliad: NEUADD Y PENTREF , GROESLON , CAERNARFON
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant.
Dyddiad cychwyn y swydd – Cyn gynted a phosib.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog: Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Oriau: Bob bore - 22.5 awr yr wythnos.
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar lefel 2 neu uwch.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu: Arweinydd – Angharad Owen neu aelodau’r pwyllgor. cylchmeithringroeslon@hotmail.co.uk
Dyddiad Cau: 13/07/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 8.55-12.55 | |
| Dydd Mawrth | 8.55-12.55 | |
| Dydd Mercher | 8.55-12.55 | |
| Dydd Iau | 8.55-12.55 | |
| Dydd Gwener | 8.55-12.55 |