Arweinydd Cylch Meithrin Dechrau’n Deg Gwdihw
Blaenau GwentYdy’r rôl hon yn addas i chi?
Rydym yn chwilio am arweinydd brwdfrydig ac ymroddedig i arwain ein cylch Cymraeg a sicrhau'r safonau uchaf o ofal, dysgu a chwarae i blant bach.
Rydym yn edrych am rywun:
- sy’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg
- sydd â’r gallu i arwain, ysbrydoli a chefnogi tîm o staff
- sy’n gallu sicrhau gwasanaeth o safon uchel sy’n ddiogel, cynhwysol a chroesawgar
- sy’n meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol ac yn gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, teuluoedd a phartneriaid
- sy’n ymrwymedig i ddatblygu’r Gymraeg, hyrwyddo dysgu drwy chwarae a chreu profiadau cyfoethog i bob plentyn
- sy’n gallu sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddiol a diogelu, gan arwain drwy esiampl
Dyma gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a theuluoedd wrth arwain gwasanaeth Cymraeg o’r radd flaenaf yn y gymuned.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw, Brynithel
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: ceri.preston@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
Cyflog: MCC8 £28,879.50 pro rata (£14.81 yr awr). Gwir gyflog ar sail gweithio 33.25 awr yr wythnos £21,962.49.
Oriau: 33.25 awr yr wythnos
Gweler swydd ddisgrifiad
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 05/08/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-14.45 | |
| Dydd Mawrth | 9.00-14.45 | |
| Dydd Mercher | 9.00-14.45 | |
| Dydd Iau | 9.00-14.45 | |
| Dydd Gwener | 9.00-14.45 |